Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

60 Y GENINEN EISTEDDFODOL. TUDNO. (Y Bwlchgwyn,—Cydfuddugol). Fy ngwlad sydd eto yn ei hamwisg ddu, A'i dagrau brwd yn ffrydio'n berlau mân, Ac yna'n rhewi ar ei gruddiau glàn, Nes oeri'i chalon yn ei mynwes gu. Yn wylo mae, gan ocheneidio'n brudd ; A phwy all beidio wylo gyda hi ? Ag yntau—'i bardd—mewn bedd gerllaw y lli',— Yn wir, mae'r dòn a'r deigryn ar ei grudd. O! Tudno, Tudno, y mae'r awel fwyn, Wrth grwydro heibio'r marmor gwyn Ddynoda'i feddrod draw ar ael y bryn, Yn sibrwd enw sydd yn for o swyn. Nid rhyfedd it', fy ngwlad, oblygu'th ben Mewn prudd-der dwys, pan gyfyd delw hardd, Ar edyn dy adgofion, o dy fardd Yn tiwnio'i delyn ar dy fynwes fwyn. Ei weled wnei, fiynyddau rai yn ol, Ym mysg dy blant, yn fachgen gwrid- goch, llon, Yn chwareu ar dy delyn ger dy fron, Mewn hapus hwyl, o fewn dy gynes gol. Dy Dudno di a wnai i'r delyn fwyn Ddiferu miwsig fel y diliau mel, A yn felusach fyth i'r oesau ddel, Nes gwneud dy froydd heirdd yn fòr o swyn. Llawer gwaith, fy ngwlad, y gwelais Gariad ar dy emrynt cun Ato'n llosgi, nes yr ofnais Weithiau collet ti dy hun : Plethaist iddo lawer llawryf Yn goronbleth ar ei ben ; Ac ar dafod torf aneirif " Tudno yw arwr Gwalia Wen." Wyla, wyla, fam glwyfedig, Wyla'n chwerw ar ei ol: Mud yw'r Awen ddyrchafedig Ganai unwaith yn dy gol, Ac a blethai'r cynghaneddion Gyda medrus, fedrus law : Er yn farw, ei alawon Gedwi di i'r oesau ddaw. Do, gwrandewaist arno'n trydar Ar yr helyg ger y lli, A sibrydaist mai rhy gynar Ydoedd iddo'th adael di: Eisiau marw ydoedd arno, A gorphwyso yn dy gol ; Tithau ger ei fron yn wylo— Wylo'n chwerw—ar ei ol. Aros, Tudno, aros eto,— Aros yma enyd bach,— Gad i'r Awen eto byncio Ei halawon melus, iach— Yr alawon melus hyny A ddiferent i fy mron Gyda rhin yr olew, wedi Disgyn ar gynhyrfus dòn. Wedi trydar, trydar felly, Fe ddystawodd yn y man ; A phob awen drodd o ganu I och'neidio'n brudd i'r làn : Safent wrth y bedd i wylo, Gyda phigyn dan eu bron,— Wylo, wylo, ac och'neidio Bob yn ail â'r bruddaidd dòn. Eisiau 'i ollwng i orphwyso Oedd ei " eisiau marw " ef,— Eisiau '' marw i fyw " oedd arno- Byw dedwyddol fyw y Nef; Corph ac ysbryd wedi colli Eu cydbwysedd ar y llawr,— 'R ysbryd am ehedeg 'fyny, Yntau'r corph yn gwyro i lawr. Nef a daear roddodd iddo Y dymuniad rhyfedd hwn,— Cariad gafwyd yn cydsynio I'w waredu dan ei tewn ; Ond er gwaethaf yr ysgariad, Byw yw Tudno yn y Nef; Heíyd, byw yw yn ei famwlad Trwy ei odlau peraidd ef. Rheithordŷ Llan Armon. Isfryn. IECHYDFA GALLTYMYNYDD. (Galltyplacca, 1907). Welw deithiwr glynoedd ing ! Fry i gaerfa iechyd dring : Tostur ddyrchodd iti lys,—■ Gobaith yno bwyntia'i fys. Dywed byrdra'th chwytíi a'th gam Fod o'th fewn ddiíäol ffiam ; Dòs a thafl ar ysgwydd chwa Galltymynydd bwys dy bla. Cwyd dy galon, paid pruddhau,— Cais gan Natur i'th wellhau ; Fry i hoen a hedd y rhos, Dan arweiniad Gwyddor, dos. Cei o law yr awel falm, Ac o iin yr 'hedydd salm. Duw, drwy byrth y claf-dy mad, All dy ddwyn i fro iachâd. Cwrtnewydd. Clldlyn. Y GRONYN GWENITH. (S'. Clears, 1910). Noeth hcdyn gwenith hudol;—oni syrth, Ni saif i'r dyfodol: Yfory bydd gynyddol, A chodi'r plant gant o'i gôl. J. L. Thomas TY YR ARGLWYDDI. (Llandyssul, y Grogliih, 1910). Twr ystryw ein hedd, tŷ rhwystr i ni,—trig Trais, yw Tŷ'r Arglwyddi,— Caer tywyllnos,—cryd dellni,— Cul haddef brad,—claddfa bri. Cledlyn. Y WYDDFA. [Ebcnezer, Tumble, Llanclli). Eglur Himalaya'r Gogledd,—a'i phen Gcr ffìniau Tangnefedd, Yw'r Wyddfa,-—gwasgara'i gwcdd Ust hudol drwy'r gwastadedd. Pwy yw'r Awdwr? Y DDAFAD. [Cydfuddugol yn Pisgah, Cercdigion, 1909). Un hardd, hyfwyn, yw'r Ddafad,—anianol Frenines amaeth-wlad; Uchel-barch,—nerth y farchnad Yw'r un wlanog, fywiog, fad. Talgareg. Ap Dulas.