Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN EISTEDDFODOL. 59 Fe syllodd ar flodau mis Mai ei hun ; A thorodd ei galon wrth fedd ei fun. Gwnaeth ganig o'i hiraeth yn galon i gyd ; A'i fywyd yn hono adawodd i'r byd. Trwm ydoedd miwsig mis Mai yn ei glyw,— Bu farw Llywelyn a'r blodau'n byw! Gorphwysa'r ddau yn y bedd ynghyd, A blodau mis Mai yn d'od o hyd. Athron. MYFYRDOD.* [Ffestiniog, Nadolig 1907). Myfyrdod, hynod anian,— Heolydd rhydd yw ei ran ; Nerth y meddwl manwl, mŷg, A nawdd y chwim ddychymyg ; Yni di-lais, grym di-lên, A bywyd hoewdeb Awen. Egyr aber i grebwyll,— Ar wàr y beiddgar rhy bwyll! C'lomen wen y gwyddon yw,— Digadwyn osteg ydyw! Hêd fydoedd y dyfodol, A'u hegin hwy ddug yn ol! Heb lestair, i balasdy Yr hudol Orphenol, ffy ! A hwn ddring dros ddôr Angau, Heb ing, i'r Dragwyddol Bau ! Ffynon dibenion y byd, Wys dyfais, ydyw hefyd ; Cyn i angel eu gweled, Trwy'i lŷs clau peiriannau rêd ! Aeth arfedd pob rhyfeddod Heibio i hwn cyn eu bod! Gorsedd hyawdledd diodlau, A Ue mae'r gwir mor llwm â'r gau Am frawddeg ! Ei fynegiant Sy'n fywiol delyn heb dant! Myfyrdod ! Heb dafodiaeth Y dring meddyliau i'w draeth! Mudion yw cyfrinion ei fro,— Geiriau hunant dan gur yno ! I wawr ei hedd fy nghri o hyd Gâr hedfan o gẁr ei hadfyd ! Ow ! dan sêl cwsg dirgelion Aml ei frad yn nheml ei fron ! Di-ffrwyn nwyf ! Hyd uffern hêd, Heibio'n hoew, heb niwed ! Ddiatal allwedd ddetyd Gloion bedd dirgelion byd ! Chwery â Deddf carchar dig,— Gwawdia ei ddôr gauedig ! Eangder mewn gollyngdod Yw nwyf hwn,—cudd, wibiol fod ; Er barrau hei'rn, drwy awyr braf Caf hedfan i'r fan a fynnaf ! I alltud nid oes bellder Ar wib hwn i'w fro-dir bêr ; Hêd a mawl i demlau'i deimlad O hen wlad fwyn ei aelwyd fâd ; Daw'r asgell i dir hiraeth I'w gludo draw'n glyd i'w draeth ! D. Emrys James. ö Anfonwyd y cywydd uchod i'r gystadleuaeth cyn ymgydnabyddu â rbeolau yr eisteddfod. Dyfarnwyd ef yn " oreu o ddigon" gan Lew Tegid; ond attaliwyd y wobr, am mai gwŷr Meirionydd yn unig wahoddesid i'r ymdrech.— D. E. J. CYFARFYDDIAD SEIRIOL WYN A CHYBI FELYN YN NGHLORACH. (Eisteddfod Gadeiriol Mon, 1871). Y mae gerllaw i amaethdy Clorach, ar y ffordd fawr o Lanerchymedd i Fiwmares, ddwy ffynon, a elwir Ffynon Cybi, a Ffynon Seiriol; wedi eu henwi felly oddiwrth y Seintiau Cybi a Seiriol, y rhai oeddynt yn arfer ymgyfarfod yma i ymgyng- hori yn nghylch achosion crefyddol: ac wrth fod gweiriidog Caergybi yn arfer teithio y bore tuag yma, âi wyneb at yr haul, a'r un modd wrth ddychwelyd adref yn y prydnawn, gelwid ef " Cybi Felyn; " ac fel yr oedd Seiriol, wrth ddyfod a dychwelyd, yn arfer teithio â'i gefn at yr haul, gelwid ef yn " Seiriol Wyn." Dau anwyl yn cyduno,—gwŷr o ddawn Garai dd'od, drwy deithio, I dduwiol gydweddio, O'r un fryd, ar ran y fro. Un o Glannach â glew yni,—a'r lla.ll Mor llon o Gôr Cybi, Ym Mon hyglod, nes d'od i Faenaddwyn dref i'w noddi. Rhoisai rhod y gwres, ar hyn,—wahanol Enwau ar y ddeuddyn ; Hwy alwyd " Cybi Felyn," Wrol wedd, a " Seiriol Wyn." Cysurus y cai Seiriol,—âg iechyd, Gychwyn yn foreuol, Wyneb yn orllewinol, A gwàr syth i'r gwres o'i ol. Eto'r prydnawn, llawn y lluniai—ei daith Yn deg pan gychwynai: Yr haul i'w gefn ar ol gai,— I'w noeth wyneb ni th'wynai. A Chybi fu'n achubol,—er y gwrid Wnai'r gwres cyferbyniol: Heulwen gai yn mlaen ac ol I'w wyneb yn dywynol. Y boreu wynebai'n barod,—yr haul A'i rym heb un cysgod ; Troi'r prydnawn, dan uniawn nôd, I'w erbyn yn ddiddarbod. Ac felly, i'r gyfeillach,—mewn awr deg, Am haner dydd mwyach ; Lle i ymgomio, 'n eon, iach, Wnai claer Ffynhonau Clorach. Ac yfed gloewddwr eu gofer,—i ddad- Luddedu mewn pleser, Wnaethai y daith faith yn fèr Ar ei therfyn wrth arfer. Ymadael yn drwm, wed'yn,—troi i'w Trwy y tês yn ddichlyn ; [taith Eto, yr hedd gaent, drwy hyn, Oedd elw Crist o'i ddilyn. Dau Esgob wedi dysgu—egwyddor Gyhoeddwyd yn Nghymru, Cyn bod Pab neu fab a fu I'w osod yn Ue Iesu. Drwy nawdd Llywiawdwr y Nef,—o Y daethant hyd adref : [deithiau Eiddo y ddau, rhaid addef, Yw gem Ion a'i gwmni Ef. Meilir Mon. Y MAURETANIA. (Rhosybol, y Groglüh, 1910). Arwres tònau'r Werydd,—ar ei hynt, Rhwng y ddwy wlad, beunydd,— Llong hoewaf, decaf y dydd, Uwch eraül o'i chwiorydd. Pwy yw'r Awdwr ?