Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

58 Y GENINEN EISTEDDFODOL. LLEUCU LLWYD: RHIANGERDD. {Dolgellau, Calan 1900). Gwenodd y gwanwyn mewn brieill mân ; Aeth Uwyni Nannau yn demlau cân. Cân oedd yn nghalon Llywelyn Goch, A gwanwyn bywyd yn gwrido'i foch. Ar lanau Dyfi 'roedd blodau hardd; A cherdded drwyddynt wnai Lili'r bardd. Breuddwyd oedd yn ei chalon wen ; " A gwallt, fel nos," goronai 'i phen. Cwrddodd y ddau ger y Dyfi deg, Ar lwybrau hysbys i'r tylwyth teg. Aeth " cân " a " breuddwyd " i uno'u byd ; A'r blodau'n gwenu o'u cylch i gyd. Distaw oedd hi, a swil ydoedd ef ; A chariad y ddau'n gwneyd cadwen gref. Heb feddwl am amser, eisteddent yng- hyd,— Mae oriau ar brydiau'n difìanu o'r byd. Daeth nos i lawr gyda'i mantell brudd ; Ond mewn dwy galon disgleiriai dydd. Ymgomiai'r ddau am helyntion lu,— Hanes gwroniaid, a Chymru Fu. Ymgomio wnaent am gariadau'r fro ; Ac enwodd yntau ei gariad o. Gwrido wnaeth hithau, heb ddweyd dim byd,— Deallodd yntau y 'stori i gyd. Mae hanes y gwrid ddaw i ruddiau merch Yn benod fawr iawn yn llenyddiaeth Serch. Wrth blethu brwyn ac ymgomio yn hy', Mor fuan daeth amser " myned i'r ty." Cyfododd i ddianc, fel ewig lon, A gobaith ei bywyd yn llond ei bron. Mor hynod brydweddol oedd Lleucu dlos, Yn dianc, o'i hanfodd, drwy wyll y nos. Cyfododd Llywelyn i'w dilyn hi; A'i hebrwng, " fel tase," at gamfa'r ty. Gwaith hawdd oedd ei dal: un arafaidd iawn Yw cariad yn dianc á chalon lawn. Mor ddieithr-swynol yw cariad bun, — Chwareua'n ddiddiwedd á chalon dyn. 'Roedd swyn mewn diengyd ; ond wydd- och chwi, 'Roedd mwy mewn cael cariad i'w dilyn hi. 'Fan hono barddonai dwy galon làn,— Pob gair cyn ei sibrwd yn ddefnydd cân. Treuliasant flwyddi mewn munud neu ddau,— Yr oedd dorau Amser i gyd ynghau. Cyfamod a seliwyd â chusan dèl Yn arwydd o rywbeth—o rywbeth ffel. Gwahanodd y ddau, a gobeithion fyrdd Yn sisial dedwyddwch o ochrau'r fîyrdd. Aeth Lleucu i'r palas, a byd o serch Nofiai o'i henaid i lygad y ferch. Llywelyn a ddringodd hyd lethrau'r bryn, Gan dynu'r dyfodol i'w fywyd gwyn. Breuddwydio wnai Lleucu ofidiau i ffwrdd,— Breuddwydio angylion ei serch i'w chwrdd. Canai Llywelyn yn ngwyll y nos, A chanai y wawr i'r wybren dlos. Canai farddoniaeth ei serch ei hun,— Barddoniaeth Serch yw breuddwydion bun. Fe ganai pan ganai y mwyalch mwyn, A chanai pan wywai blodau ar lwyn. Un oedd ei gân y gauaf a'r haf,— Un ydyw cywair pob calon glaf. Canai fel hyn i'w anwylyd dlos, Pan gyfodai'r haul, pan ddisgynai'r nos : — " Tlysach yw Lleucu nag ewyn y dòn ; Melusach na'r mefus ei gweíus lon. Brenhines rhianod y byd yw hi,— Calon fy nghalon—fy mywyd i. Gwelaf ei gwên yn ngoleuni'r haul, A gwyrdd ei bywyd yn lliw y dail. Gwynach na'r lili yn min y llyn, A'i thalcen gwastad fel mynor gwyn. Ni fu brenhines i'r tylwyth teg, Na meinir arall, erioed mor deg. Chwareua y wawr yn ei llygad llon ; A chariad fy nghariad sy'n chwyddo'i bron. Clir yw ei bywyd, fel gias y nen ; A nos blethedig o gylch ei phen. Cochach na gwrid yr un rhosyn cocii Yw lliw y gwaed sydd yn gwrido ei boch. 0 ! fy anwylyd, paid oedi'n hir,— Cofia y bardd sydd yn dioddef cur. Bydd bur i'th addewid dan ser y nen, 1 ddod pan fydd blodau mis Mai ar bren." Cerddasant yn aml dan cysgod y coed, Gan ddisgwyl addewid mis Mai i'w hoed. Aeth ef ar ei deithiau yn mhell i'r De, A Lleucu 'n ei aros yn ol i dre'. Ni wyddai Llywelyn fod tymhestl fawr Yn curo ar galon ei fun yn awr. Ei thad oedd anfoddlawn i uno y ddau, A 'storm ei ddigofaint o hyd yn trymhau. Aeth ati, un boreu, pan ydoedd ei hun, A brad yn ei galon a thwyll ar ei fin. Ac meddai, " Llywelyn wrthododd dy law,— Yn ol tua Nannau byth eto ni ddaw. Enillodd rhyw eneth o'r De ei serch ; A thwyllodd hi, Leucu, anhapus fercli. Priodwyd y ddau mewn rhialtwch mawr ; Ac ofer disgwyl Llywelyn yn awr." Syrthiodd yr eneth i lawr wrth ei draed ; A'i c hludo i'r palas yn ebrwydd wnaed. Sibrydodd yr enw " Llywelyn " yn flin, -■ Bu farw a'r enw yn fyw ar ei min. Yn ol yr addewid Llywelyn ddaeth,— I hawlio'i anwylyd yn ebrwydd aeth.