Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: Cplcteaton Cenefclaetíwl. Rhif. 4.] HYDREF, 1894. [Cyf. XII. LLE GWYDDONIAETH YN MHEIEYSGOL CYMBU. Y mae Prifysgol Cymru bellach wedi ei chael; ac y mae yr awdurdodau yr ymddiriedwyd y gwaith iddynt eisoes wedi dechreu gwneyd trefniadau ar gyfer arholi a graddio. Er mai arnynt hwy y gorphwys y gwaith byddai yn dda cael mwy o sylw cyffredinol at elfenau addysg athrofeydd ac at yr egwyddorion ddylai bendeifynu natur arholiadau prifysgol. Beth ddylid ddysgu mewn athrofa ? Dyna hen ofyniad sydd eto heb ei ateb i foddlonrwydd pawb. A ddylid dysgu pobpeth ? Os yw hyny yn anichonadwy, pa gangenau ddylid eu dewis, ac ar ba egwyddor y mae gwneyd hyn ? Pa tynciau ddylid eu dysgu i bawb, ac i ba fesur y dichon addysg un myfyriwr fod yn wahanol i eiddo un arall ? Cyn ateb gofyniadau fel hyn rhaid penderfynu beth yw amcan addysg. Cytuna pawb y dylai barotoi y myfyriwr ar gyf er gwaith ei fywyd ; a lle y mae gwahaniaeth mawr rhwng amcanion a chyrhaeddiadau myfyrwyr, fel y ceir yn ein hathrofeydd cenedlaethol, ymddengys yn rhesymol a phriodolini ddarparu, hyd y gellir, addysg wahanol ar gyfer gwahanol ddosparthiadau. Cymerir yn ganiataol fod gwahaniaeth amcanion dyfodol myfyrwyr yn gofyn am wahaniaeth yn eu haddysg. Y mae yn ddiau fod hyn yn iawn, i ryw fesur; ond dylid cofìo hefyd, er mai nid yr un wybodaeth sydd yn fanteisiol i bawb, mai un yw diwylliant, ac fod ar bawb ei eisiau. Gellir cael diwylliant drwy ymwneyd yn iawn âg unrhyw gargen o wybodaeth, fel ag y gellir dadblygu a chryfhau aelodau y corph drwy ymarfer âg unrhyw waith. Wrth ymwneyd â chrefît, megys eiddo y saer neu y gof, cryfheir nerth y cyfarisoddiad a dadblygir yr aelodau ; dysgir y llygad i sylwi yn fanwl, a'r llaw i weithredu yn gywir. Ond fel y mae y crefftwr yn dewis ei grefft yn benaf er mwyn cynyrch y gwaith, felly y mae rhai yn dewis pynciau addysg yn benaf er mwyn y wybod- aeth a gynwysant. Edrychant ar y myfyriwr fel dyn yn myned allan i faes cynhauaf byr ond pwysig, lle y rhaid iddo gasglu ffrwythau at ei gynhaliaeth yn yetod gauaf dyfodol bywyd; a chredant y dylai gael ei arwain i'r maes sydd yn cynwys y cyflawnder mwyaf o'r ffrwythau goreu. Dadleuant, gan hyny, dros roi iddo bethau defnyddiol, pethau y bydd yn dda ei fod yn eu gwybod pan ddaw at waith ei fywyd. Y mae elfen o wirionedd yn ddiau yn y golygiad hwn. Y mae arnom eisiau gwybodaeth yn gystal a diwylliant. Os yw gwybodaeth heb ddiwylliant yn anhardd, y mae diwylliant heb wybodaeth yn anymarferol. Credaf y cydnebydd pawb, pe dewisid cangenau gwybodaeth yn benaf ar gyfrif eu defnyddioldeb uniongyrchol, y safai y cangenau gwyddonol yn y rhestr flaenaf. Beth bynag fydd gwaith dyfodol y myfyriwr erys y ddaear dan ei draed a'r wybren uwch ei ben ; a bydd gwybodaeth am elfenau, cyfan- soddiad a deddfau natur, pa un ai yn yr adran faterol, neu lysieuol, neu fywydol, o ddyddordeb a gwerth parhaus. Nid wyf yn meddwl fod eisiau treulio amser i brofi defnyddioldeb addysg wyddonol fel cyfrwng gwybodaeth werthfawr; ond, fel y crybwyllwyd yn barod, dysgwylir i addysg athrofaol gynyrchu diwylliant yn gystal a chyfranu gwybodaeth; ac y mae llawer o'n haddysgwyr bíaenaf, tra yn credu y dylid cael y ddau, yn dal mai diwylliant yw y pwysicaf; a phan yn trefnu maes llafur yr efrydydd edrychant, nid am y maes lle y gellir casglu ystôr dda o'r ffrwythau goreu, ond àm yr un lle y dysgir y gweithiwr ieuanc i arfer ei alluoedd ac i drin ei offer, i adnabod y gwych oddiwrth y gwael, i ochel gwrthwynebiadau, a gwneyd y defnydd goreu o'r cynorthwyon sydd i'w cael. Mae y dyn sydd wedi dy sgu crofît yn yr hon y mae eisieu llygad craff a llaw ddeheuig, wedi dysgyblu ei lygad a'i law i wei,thredu yn fwy cyfiym a chywir na phe buasai heb ddysgu y grefft. Mae y gwaith neillduol a berthynai i'w