Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: Cplcteaton CeneMaetöoI. Rhif. 8.] GORPHENAF, 1894. [Cyf. XII. ASTUDIO LLENYDDIAETH GYMEEIG. Llaweb, a sonir am Lenyddiaeth Cymru; ond ychydig, y mae lle i ofni, a'i hyn, yn ddiameu, i raddau helaeth; ond, nid yn anfynych yn ein plith ni'r Cymry, yr achos yw diffyg yni a chariad at wybodaeth. Mae'n wir yr ymgyfyd llawer o rwystrau ar ffordd efrydydd Llenyddiaeth Gymreig ar y cychwyn; ond am y gwir rwystrau ni ddeuir i'w hiawn-ddeall hyd nes y gwneir cryn gynydd yn yr efrydiaeth hon. Ar lawer adeg rhwystrir dynion a feddant y llyfr rhag darllen y Mabinogion, er engraifft, yn unig gan yr olwg ddieithr sydd ar yr argraff; oblegid iaith hawdd a seml, gan mwyaf, yw iaith y Mabinogion; ac nid oes ynddynt hwy yn agos gymaint o eiriau anhawdd ac anarferedig ag a allesid ddisgwyl. Gellir dweyd yr un peth am y Brutiau, a hen ysgrifeniadau rhyddieithol ereill yn yr iaith Gymraeg. Mae hen farddoniaeth Cymru yn gyffredin yn llawer anhawddach; ond, gydag ychydig o ymdrech, gellir dyfod i ddeall llawer, er engraifft, o farddoniaeth Dafydd ab Gwilym. Am lenydd- iaeth ddiweddar yr iaith, fodd bynnag, nis gellir dweyd fod yr anhawsderau hyn yn bod : a phan y try'r gwr nas gall ddeall Dafydd ab Gwilym o herwydd sefyllfa ddrwg yr adysgrifau at Eben Fardd.Ceiriog, Islwyn, Hiraethog, ac eraill, nid oes esgus iddo, ar y cyfrif hwnnw beth bynnag. Sylwyd yn aml mai prif astudwyr Llenyddiaeth Cymru yn ein dyddiau ni yw dynion nad yw canghenau eraill o wybodaeth yn anyddorol nac yn ddieithr iddynt. Anaml y ceir Cymro a chanddo syched gwirioneddol am wybodaeth a all aros yn ddiofal yn hir o iaith a llenyddiaeth ei wlad. Fel rheol, derbynia'r cyfryw ddyn wybodaeth am bethau Cymreig â chyflymder anghyffredin, a chynydda dyddordeb ei bwnc iddo fwyfwy. Nid oes gan bob cangen o Len- yddiaeth Gymreig, y mae'n wir, y gallu hwn i greu dyddordeb i'r un graddau: mae'r anhawsderau sydd yn nglyn â rhai o honynt yn gyfryw ag i ddigaloni pawb ond yr efrydwyr mwyaf aiddgar: ond nid yw'r efrydiaeth o Lenyddiaeth Cymru fel ller>yddiaeth, byth heb feddu ar ddyddordeb anghyffredin. Gallwn ddyfod at Lenyddiaeth Cymru, fel at bob llenyddiaeth, o amryw gyfeiríadau. Er engraifft, gellir astudio dadblygiad Llenyddiaeth Cymru fel ei gwelir ymhob dernyn, pa mor ddibwys bynnag, o'n llenyddiaeth. Ond, yn aml, tuedd y dull yma o efrydu yw ffurfio dim ond rhestr o lyfrau a dyddiadau. Ni ddylai gwir feirniadaeth, ychwaith, fyth golli golwg ar werth cymharol yr ysgrifeniadau fel llenyddiaeth. Dylid hefyd yn wastad gofio nad yw llenyddiaeth fel llenyddiaeth byth yn werthfawr ond fel mynegiad digonol o ddrychieddyliau. Os cymerwn y tir yma gallwn astudio Llenyddiaeth Cymru fel y mae yn ym- gorfíoriad yn ei phrif weithiau,—amherffaith, feallai, yn aml,—o ryw ddrych- feddyliau, y rhai a gymerasant afael drwy'r darfelydd, y dychymyg, y serchiadau, afr deall, yn y bywyd cenedlaethol: a dyma, gan mwyaf, fydd ein hamcan yn yr ysgrif hon. Ffyrdd eraill yn y rhai y gellir astudio Llenyddiaeth Cymru yw y rhai a ganlyn :—Gallem ddadansoddi ein llenyddiaeth er mwyn gweled pa fodd a than ba ddylanwadau ei ffurfiwyd. Fe wnaed llawer, ond fe erys llawer eto i'w wneyd, yn y dull yma o ymchwiliad. Er engraifît, gellir cymeryd y Mabin- ogion, eu dadansoddi a'u dosbarthu. Gallem ddarganfod ynddynt wahanol haenau, megis, er engraifft, y Mabinogion Arthuraidd a'r rhai an^Arthuraidd*