Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: Cplrögraton Cene&Iaet&oI. Rhif. 1.] IONAWR, 1894. [Cyf. XII. Y CLASSUEON CYMEEIG. (A draddodwyd i Gymdeithas Genedlaethol Gymreig Llynlleifòad, Tach. 15, 1893.) Y mae testyn fy sylwada yn hytrach yn fyrr nag yn fanwl; canys y mae yn hyspys i ysgrifennydd llafurus y Gymdeithas, os nad i erill hefyd, nad wyf fì ddim yn bwriadu bwrw golwg ar holl brif awduron Cymru, ond yn unig ar brif awduron a chyfieithwyr y ddwy oes o'r blaen, sef yr eilfed a'r drydedd ar bymtheg, y rhai, a siarad yn grwnn, sydd yn cynnwys y cyfnod rhwng y Diwigiad Protestanedd a'r Diwigiad Methodistedd. Braidd, er hynny, y mae y testyn yn gamarweiniol hyd yn noed fel y mae-o ar y cerdyn ; canys pe dwedid mai yr ysgrifenwyr cymhwysaf i'r cyffredin eu cymmeryd yn gynllunia ydi'r clasauron Cymreig, yna yn y ddwy oes o'r blaen, yn anad un cyfnod arall, y ceir hwynt. Wrth gyfeirio'ch sylw at lenorion pennaf y cyfnod hwnnw, amcanu yr ydwyf gyffroi euloda ieuengaf eich cymdeithas i ymgydnabod mwy â'r ysgrifenwyr mwyaf Oymreigedd eu hiaith a u hyspryd. Fe fuase mwy o unoliath yn fy sylwada pe buaswn yn treuthu am un llenor yn unig ; ond wrth dreuthu am neilltuolion deg neu ddeuddeg, gan eu cymharu à'u gilydd, yr wyf yn gallu gwneyd peth ag sydd ar hynn o bryd yn beth pennaf yn fyng'olwg, sef gosod y ihai ifengaf o honoch ar dir i farnu pa un o'r ysgrifanwyr Cymreig a fydde yn ora iddyn ei ddewis yn gynllun ; ac ni chyfeiliornwn yn fawr pe dwedwn mai yr ysgrifennwr gora ganddyn ydi'r ysgrifennwr gora iddyn. Fel rheol, y mae llenor ifanc yn hofB rhyw awdur neilltuol, am fod hwnnw yn debig iddo fo'i hun ; ac wrth efelychu un tebig iddo'i hun, nid yw yr efelychwr yn gwneyd dim amgen na dadblygu ei ddawn ei hun. G-ofaler yn unig ar fod y neb a efelycher yn un sy'n heuddu ei efelychu, sef yw hynny yn glassur; canys fe elhr dweyd am glassuron pob cenedl yr hynn a ddywed Vinet am glassuron Groeg a Ehufen, nad ydyn nhw o'u hastudio, ddim yn mygu dawn nac yn lladd neilltuolrwydd neb. Y mae y neb a efelycho yr awduron gora yn eu petha gora yn rhywbeth amgen na dynwaredwr,—disgibl yw hwnnw sydd ar y ffordd i fynd yn feistr. Gan fod crefydd cenedl yn dylanwadu mwy na dim arall ar ei llenyddiath, yr wyf yn gweled yn dda ddosparthu llenyddiath Gymreig yn ddau gyfnod, sef Y CYFNOD CATHOLIG A'R CYFNOD PROTESTANEDD, gan adrannu y Cyfnod Protestanedd yn gyfnod Eglwysyddol ac yn Gyfnod Ymneilltuol. Y mae Vinet a Menzel a Macaulay, a phob Protestaniad darllengar arall, am a wnn i, yn addef fod crefydd Eglwys Eufen, oherwydd ei henafìath, ei chwedloniath, ei rhwysc, ac amrywiath ei defoda, yn fwy barddonol o lawer na chrefydd Eglwys Loeger, ac yn fwy fyth felly na chrefydd yr Tmneilltuwyr; ac o achos hynny, y mae mwy o liw a sawr barddoniath ar ryddiaith y cyfnod cyntaf nag syäd ar ryddiaith yr ail a'r trydydd cyfnod. Yr hynn ydyw hanesion yr Hen Destament a damhegion yr Iesu i'r Epistola, hynny ydi'r Greal, y Mabinogion, a rhai o'r Brutia, i scrifeniada mwy athrawieuthol y tri chanmlwydd diweddaf. Yng'olwg y duwinydd yn ddiáu, y mae y lleiaf o'r Epistola yn werthfawrocach nag areth Jwda, dammeg Jotham, caneuon Moesen, a galarnada Dafydd; ond yng'olwg y llenor, anghymmeradwy a fydd y gwir, os na bydd-o yn wir gloew; a diflas a fydd y da, os na bydd-o yn dda teg yr olwg. 0 rann bod yn dda, nid yw llenyddiath Gymreig y cyfnod cyntaí na