Skip to main content

64 Y PARCHEDIG JOHN JONES. ymysg trysorau'r Bodleian a'r Amgu- eddfa Brydeinig, yn taflu goleuni dydd- orol iawn ar gyfnod pwysicaf hanes Lloegr. Maddeuwn iddo am brydyddu, a d weyd ambell ysbori wan, wrth ddarllen ei lythyrau naturiol, ei freuddwydion, a hanes ei fynych wendidau a gofidiau. Siluriad bach, llygatddu, prysur,—ti welaist bethau rhyfedd, ond ni ddeall- aist wirionedd mawr dy ganrif—mai Yspryd Duw, ac nid unrhyw yspryd arall, achosodd y Chwyldroad Puritan- aidd. Rhydychen. 0. M. Edwards. Y PARCHEDIG JOHN JONES (IDRISYN). I efrydwyr y Gyfrol Sanctaidd, ychydig enwau ydynt yn fwy adnabyddus yn Nghymru nageiddo awdwr YDeonglydd Berniadol ar y Beibl, sef y diweddar Barch. John Jones (Idrisyn); ac mae'r derbyniad gwresog a'r cylchrediad hel- aeth a gafodd y cyfryw waith wedi sicr- hau i'w awdwr le anrhydeddus yn serch- iadau ei gyd-genedl tra y parhant i addoli Duw eu tadau yn hen iaith anwyl eu gwlad. Ond nid fel duwinydd yn unig y gwasanaethodd Idrisyn ei oes a-'i genhedlaeth, oblegyd efe a gyfoethog- odd lawer ar lenyddiaeth ei wlad yn y cymeriad o ysgolhaig Cymreig, a bardd, ac ysgrifenydd ar bynciau llenyddol o ddyddordeb cyffredinol, Bu yn y Wein- idogaeth Eglwysig hefyd am tua phym- theng mlynedd ar hugain; ac ystyrid ef yn bregethwr sylweddol, ac yn un yr oedd ei holl fywyd a'i ymarweddiad yn un bregeth ymarferol ac effeithiol i'r sawl a ddeuent i gyffyrddiad âg ef. Ganwyd Idrisyn Ionawr 20fed, 1804, yn Nolgellau, mewn tŷ a dynwyd i lawr i wneyd lle i gapel newydd yr Annibyn- wyr a godwyd yno rai blynyddau yn ol. Ei dad, William Jones, oedd ddyn o safle isel mewn bywyd; a'i brif orchwyl ydoedd edrych ar ol llong fechan a berthynai i Mr. Vaughan, o Nannau. Ei fam, ar y llaw arall, a berthynai i deulu parchus y Plas Newydd, yn agos i Ddolgellau, trwy y rhai yr olrheiniai ei disgyniad oddi wrth awdwr enwog Y Bardd Gwsg. Yr oedd ewythr iddo Ín byw yno yn ystod ei febyd : ac elai drisyn yno bob Nadolig gyda'i fam i dreulio y gwyliau hyny. Ỳr oedd yn ieuangaf o naw o blant, y rhai oll fuont feirw cyn ei eni ef, gyda'r eithriad o un brawd a berthynai i'r Llynges Freiniol, a'r hwn a laddwyd wrth gymeryd caeth- long ar dueddau Affrica Ddwyreiniol. Yr oedd yn dra hoff o'i fam, am yr hon y soniai yn wastad gyda'r serch mwyaf, a'r hwn deimlad a ad-delid yn ol yn wresog, er gwaethaf ei ddireidi bachgen- aidd, yr hyn yn fynych a barai iddi nid ychydig bryder. Nid oes nemawr am- neuaeth na ddarfu iddo, fel lluaws eraill a etifeddent dalent, dderbyn y cyfryw trwy ei fam, Fel bachgen hynodid ef am ei fywiog- rwydd; ac efe yn wastad fyddai blaenor planb y dref gyda'u chwareuon a'u campau. ísgrifena un am amgylchiad yr oedd ei fam yn llygad-dyst— Yn y dyddiau hyny, ac am flynyddau lawer ar ol hyny, byddai y plant, pan gaent ddrws clochdy yr Eglwys yn agored, yn arfer dringo i'w ben, a chwareu yno am oriau. Y mae un amgylchiad rham- antus yn ei yrfa fachgenaidd yn cael ei adrodd a yrodd iâs o ddychryn trwy y dref. Tẁr petryal y w y clochdy, 60 troedfedd o uchder,—y pen yn wastad, ac wedi ei orchuddio â phlwm. Amgylchynir y pen â mur tua tair troedfedd o uchder, o'r hwn y cyfyd un ar bymtheg o dyrau, gyda chyfwng o tua dwy droedfedd a haner rhwng pob un. Mewn moment o orlonder ac asbri, Jack, fel y gelwid ef, a wnaeth gyngwystl â rhai o'i gyd-chwareuwyr y byddai iddo esgyn y tyrau, a neidio o dŵr i dŵr o gwmpas y clochdy, ar un goes. Tarawyd ei gymdeithion â dychryn anaele pan y canfyddent ef yn diosg ei esgidiau, ac mewn moment yn sefyll ar un o'r congl- dyrau, ac yn ymbarotoi i wneyd ei ym- drech-gamp. Canfyddai rhywun ef o'r gwaelod ; ac yn y fan rhoddes allan y cri. Rhuthrai pawb i'r fynwent ; ac mewn ychydig fynudau, haner-llenwid y fynwent gan dyrfa o bobí yn y cyffro mwyaf, yn mysg pa rai yr oedd ei fam mewn llewyg parlysol, gan ddisgwyl bob munyd ei weled yn cael ei hyrddio i lawr a'i chwilfriwio cyn y gallesid estyn unrhyw gynorthwy iddo. Und heb gymeryd ei ddigaloni na'i ddychrynu, yn mlaen yr aeth â'i baroto- adau, a neidiodd yn llwyddianus o dŵr i dŵr. Fel prawf o'r hyn a wnaeth yr Ysgol Sul i Gymru, gellir crybwyll mai yn yr Ysgol Sul y dysgwyd Idrisyn gyntaf i ddarllen, ac y derbyniodd ei feddwl y gogwyddiad hwnw at dduwinyddiaeth ac efrydiaeth o'r Beibl, y rnai wedi hyny a roddasant gyfeiriad i'w fywyd, Ysgrifenydd arall a ädywed— Byddai yn arferiad ganmoladwy gan hen Fethodistiaid Dolgellau i "hel i'r ysgol" ar brydnawniau y Suliau ; ac y mae ar gof a chadw, i ddau o honynt ryw Sabboth'ym- welert â'r Marian Mawr, ar lan yr afon; ac yno, wrth hyll-dremio o'u cwmpas, daethant o hyd i Jack, arweinydd hogiau y gymydogaeth, Gwagrodianai yn ham-