Y GEN I N EN: Rhif i.] IONAWR, 1889. [Cyf. VII. "EU HIAITH A GADWANT." 11. Pa fodd yr ydym i gyfrif am ymlyniad anorchfygol y Cymry wrth eu hen iaith anwyl ? Nis gall gyfodi oddíwrth ddim sydd o'i deutu—oddi wrth unrhyw amgylchiadau tueddol i'w chadw yn fyw, nac oddi wrth unrhyw fantais gym- deithasol a ddeillia 0 feddu gwybodaeth ohoni; oherwydd yr ydys eisioes wedi profi mai pethau gwrthwynebol yw yr oll o'r rhai hyn i'w pharhad. Yr unig foddion sydd yn cyfranu at gynhaliaeth yr iaith y gwyddom am danynt yw yr Ysgolion Sul, helaethrwydd darpariaeth grefyddol, nodrcedd y Wasg Gymreig, a'r cystadleuaethau Uenyddol sydd mor hysbys yn Nghymru. Mawrygir yr Ysgol Sul yn llawer mwy yn Nghymru nag yn Lloegr. Y gŵyn gyffredinol yn Lloegr ydyw nas gellir sicrhau presenoldeb ieuenctyd dros 15 a 16 mlwydd oed yn yr Ysgol Sul; ond yn Nghymru nid yw ond peth cyffredin, yn enwedig yn y pentrefi a'r ardaloedd gwledig, i weled y canol oed, y tadau a'r mamau, yr hen, yn ogystal a'r plant a'r athrawon,yn cyfeirio eu llwybrau at yr Ysgol Sul yn y prydnawn, ac hyd yn nod yn oriau cynar y borau. Nid yw ond peth cyffredin, ychwaith, i weled ysgolion lle y mae y rhan fwyaf o'r rhai fyddo yn bresenol ynddynt dros ugain oed. Y canlyniad ydyw fod dynion a merched ieuainc yn cael eu hunain yn hollol gartrefol ynddynt. Mae y wybodaeth Ysgrythyrol a sicrhant drwy hyn, ac yn fynych y wybodaeth achuboi 0 Air Duw a dderbyniant, yn lefeinio eu calonau â chariad parhaol at y Gymraeg, drwy yr hon y cawsant y fath fendithion gwerthfawr. Mae helaethrwydd moddion crefyddol yn Nghymru yn tueddu hefyd i'r un cyfeiriad. Nid oes amheuaeth nad yw Pwlpud Cymru wedi profi yn allu mawr er cynhaliaeth yr iaith ; ac er na all ymffrostio yn ein dyddiau ni mewn unrhyw ser disglaer fel yn y blynyddau a aethant heibio, nid yw wedi peidio dylanwadu yn nerthol ar wlad y bryniau. Mae pregethu yn parhau i dynu y lluaws yn eintrefydda'nhardaloeddgwledig, ar raddfa eangach nag yn Lloegr. Paham y mae y gwahaniaeth hwn yn bod ? Annheg a fyddai ei briodoli i well pregethau, gyda golwg ar ddefnydd, arddull, cyfansoddiad, a thraddodiad. A raid i ni ei briodoli i ryw raddau i'r ffaith fod mwy 0 addasrwydd yn y Gym- raeg i'r Pwlpud ? Gan y bydd i ni gyffwrdd â hyn yn mhellach yn mlaen, ni wnawn ond sylwi yma nad oes yr un wlad o'i maint ag y mae y Pwlpud yn cael y fath ddylanwad arni, neu un yn mwynhau cynifer o ddarpariaethau crefyddol. Y Pwlpud, yn benaf, sydd wedi dyrchafu y wlad i'r safle uchel y mae ynddi, yn foesol a chrefyddol. Ni raid i ni felly ryfeddu am fod y Cymry yn caru yr hen iaith hono drwy yr hon y mae y Pwlpud wedi gweithio mor rymus. Gellir hefyd ystyried gwasg gyfnodol y Cymry fel yr hyn sydd wedi gwneud ei ran tuagat ddwyn hyn oddiarogylch ; oherwydd y mae nid yn unig yn defnyddio yr iaith Gymraeg, ond mae yn Gymreig 0 ran cymeriad a theimlad. Ynddi hi yn unig y dadleuir ilesiant y Cymry, yr amddiffynir hawliau y Cymry, y trafodir ac y cydnabyddir sefydliadau ac arferion y Cymry, yr ymgynghorir â barnau y Cymry, ac y meithrinir chwaeth y Cymry. Gan fod y wasg Seisnìg, raddau helaeth, yn anwybyddu y materion hyn, trydd y Cymry oddi wrthi yn