Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ ^BfäüJ (Bgltüpij). DYDD NADOLIG CRIST. Mae tri pheth yn deilwng o sylw pob Cristion, hen ae ieuanc, ar Ddydd Nadolig (genecìigaeth) Crist. Yn gyntaf, yr hyn a wnaeth Duw tuag atom ni; sef ein caru, tosturio wrthym, danfon ei anwyl Fab i'r byd i gael ei eni o forwyn dlawd yn lletty yr anifail, a'i rwymo mewn cadachau, a'i cldodi yn y preseb; a hyny, er mwyn i ni gael ein geni o newydd, a'n gwneuthur yn feibion a merched i Dduw, a'n codi o dlodi i gyfoeth, o bechod i gyfiawnder, o drueni i ddedwyddwch, ac o'r ddaiar i'r nef. Yn ail, yr hyn a ddylem ni ei wneuthur tuag at Dduw. Nid dilyn ein pleserau ein hunain, na phorthi ein blys ein hunain; na phechu mwy ar y dydd hwn nag ar ddyddiau ereill y flwyddyn, megys y gwna llawer; eithr diolch i Dduw, a'i ogoneddu, a'i foliannu, am ei ryfedd gariad, gan ganu gyda'r llu nefol, " Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaiar tangnefedd, i ddynion ewyllys da." Yn drydydd, yr hyn a ddylem ei wneuthur y naill tuag at y llall. Ni a ddylem faddeu i'n gilydd, bod mewn tangnefedd â'n gilydd, a charu ein gilydd. Dylai'r cy- foethog gofío am y tlawd, yr iach am y claf, yr hwn sydd yn gysurus arno am yr hwn sydd angenus, yr ieuanc am yr hen, a'r cryf am y gwan. Mae brodyr a chwiorydd^ tlodion a chleifion a chystuddiedig, i'r Hwn a anwyd ym Methlehem, yn ddigon agos at bawb. Mae gan lawer bachgen sydd yn ennill cyflog dda, ac *yn ei gwario hi yn rhwydd, hen wr o dad, neu hen wraig o fam 'yn ddigon cul eu tamaid a llwm ei pilyn, ag y byddai yn dda iddo gofio am danynt. Hoffwn y bachgen hwnw a adwaenwn yn y gweithfëydd, yr hwn yn Ue myned i ffair yr eisteddfod ar Ddydd Nadolig, a gwario ei arian ar oferedd, a bender- 8i—Rhagfyr, 1873.