Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$gfaül (gfllwjpifl. Y CYFARFOD MAWR EGLWYSÍG. Cynnaliwyd y Cyfarfod Mawr Eglwysig eleni yn ninas brydferth Caerbaddon (Bath), Hydref 7, 8, 9, a'r 10. Hwn oedd y pedwerydd ar ddeg. Cyn ei ddyfod ofnai llawer na fyddai hwn mor llwyddiannus a'r cyfarfodydd yn y blynyddau blaenorol: eithr trodd eu hofnau yn ddisail; ni bu un cyfarfod yn fwy llwyddiannus, ac o rán nifer y bobl a ddaethant yng nghyd ni bu un mor llwyddiannus; gwerthwyd dros chwech mil o docynau i fyned i mewn. Yr oedd yno wŷr urddasol o bob rhan o'r deyrnas—o Loegr a Chymru, yr Alban a'r Iwerddon; yr oedd yno rai o America. a rhai o Awstralia. Adeiladwyd pabell eang a chyflëus ar gyfer yr achlysur, ac eisteddleoedd ynddi i ddwy fil a hanner. Diammheu fod tair mil yn wyddfodol yn rhai o'r cyfarfodydd, o blegid fod yno gannoedd yn sefyll ar eu traed, ac yr oedd pob safle yn llawn. Cynnelid tri cyfarfod bob dydd—am ddeg yn y boreu, hanner awr wedi dau yn y prydnawn, ac am saith yn yr hwyr. Dygid y gwaith ym mlaen yn drefnus dros ben. Ar bob pwnc yr ymdrinid ag ef yr oedd dau wedi eu penodi i ddarllen papyr arno, ac ugain mynyd o amser yn cael ei roddi i bob un o honynt: yr oedd tri ereill wedi eu penodi i siarad ar yr un pwnc, a chwarter awr yn cael ei roddi i bob un o honynt: yna yr oedd ereill a ddanfönent eu henwau i mewn ar y pryd yn codi i siarad am ddeng mynyd bob un, a dim mynyd yn rhagor; 'ar derfyn yr amser cenid cloch, a phan gauai y gloch yr oedd yn rhaid i'r siaradwr eistedd i lawr. Fel hyn nid oedd neb yn cael mwy na'i ran o amser y cyfarfod. Byddai yn dda pe bai'r drefn hon mewn gweithrediad ym mhob cyfarfod lle y mae llawer yn llefaru. 83—Taẃwedd, 1873.