Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfî'jfaül (Sfllujgaij. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. | TWRCI. Yn eiu rhifyn diweddaf darfu i ni enwi y crefyddau ag sydd yn ffyou yn Twrci, ac yu awr cawn fanylu ychydig arnynt. 1. Mahometiaeth.—Mahomet oedd sylfaenydd y grefydd hon, ac oddi wrtho ef y cafodd ei henw. Proffesir hi gan y Tyrciaid oll. Mahomet a anwyd ym Mecca, dinas'yn Arabia, yn y fiwyddyn O.C. 569. Yr oedd ei dad yn perthyn i un o'r llwythau mwyaf urddasol ym Mecca, ond bu farw pan oedd Mahomet yn ieuanc, a gadawodd ei deulu mewn amgylchiadau isel a chyfyng; ac o herwydd byn Mahomet a dderbyniwyd i deulu ei dad cu, yr hwn ar ei farwolaeth a ymddiriedodd ei ŵyr i ofal ei fab, Abu Tabb, yr hŵn oedd yn frawd o'r un tad a'r un fam i dad Mahômet. Ei ewythr a'i derbyniodd ef o dan ei ofal, ac a'i dygodd i fyny i fasnachu. Ar un achlysur efe a'i hanfonodd ef i Syria i fasnachu yno; ac efe a'i dygodd i sylw gwraig weddw gyfoethog ym Mecca, yr hon a'i cymroerodd ef fel goruehwyliwr i'w gwasanaeth, a'r hon a gafodd ei boddloni gymmaint ynddo fel y gwnaeth ef yn wr iddi. Gwedi iddo briodi y weddw gyfoethog hon, efe a ddyrchafwyd yn fawr yn ei sefylìfa a'i ddylanwad cymdeithasol, ac a ddygwyd i feddiant o helaethrwydd o gyfoeth. Pan yr oedd yn ddeugain mlwydd oed efe a ddechreuodd gyhoeddi ei grefydd; efe a arferai neillduo i ogof ag oedd o fewn tair milltir i Mecca, i ymprydio ac i fyfyrio a gweddîo, a dywedir iddo dderbyn yno weled- igaethau oddi wrth yr angel Gabriel. Efe yn gyntaf a ddadguddiodd ei feddwl i'w wraig ac i'w deulu. Am ddeuddeg mlynedd efe a barbaodd i ledaenu ei grefydd trwy bregethu ac addysgu yn unig, a'r cynnydd a wnaeth 82—Eydref, 1873.