Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CîfffB '(88.1wî»ìí. Y DDAIAR A'I THRIGOLION.v TWBCI. Mae Twrci yn wlad hynod ar amryw ystyriaethau; y mae ya liynod am amrywiaeth y gwledydd o'r rhai y mae yn gynnwysedig: mae rhai parthau o honi yn Àsia, parthau ereill yn Ewrop, a pharthau ereill yn Affrica. Yn Affrica ceir yr Aipht, Tripoli, a Tunis yn gyssylltedig â Thwrci, ae yn ddarostyngedig iddi. Yn Ewrop mae Roumelia, yr non sydd yn gynnwysedig o'r hen wledydd a elwid gynt Macedonia a Thrace, yn perthyn i Twrcij ac felly mae Thessaly, Albania, Bulgaria, Herzegavina, Bosnia, Monte Negro, Servia, Wallachia, a Moldavia. Ac yn Asia mae y gwledydd mwyaf hynod a geir mewn hanesyddiaeth, yn gwneuthur i fyny ranau o ymherodraeth Twrci: y gwled- ydd hyn ydynt Syria, gwlad Canaan, Asia Leiaf, Mesopo- tamia, Armenia, Kurdistan, ac Irakarabi: ond rhaid addef nad yw llawer o'r gwledydd yma yn perthyn i Twrci ond mewn enw yn unig; mae ganddynt dy wysogion eu hunain, y rhai a'u Uywodraethant mewn dull ag sydd agos yn an- nibynol. Cydnabyddant yn wir uchafiaeth Twrci trwy dreth daladwy, a dangosant trwy y taliadau hyn eu gwres- ogrwydd i Ymherodraeth Twrci, ond llywodraethant eu talaethau fel tywysogion annibynol. Mae Twrci yn hynod hefyd am amrywiaeth y cenedloedd sydd yn trigo ynddi. Mae'r cenedloedd hyn yn amrywio rnewn gwaedoliaeth, mewn iaith, mewn arferion, ac mewu crefydd. Mae rhai o honynt. o ran eu gwaedoliaeth, yn tarddu oddi wrth y Tartariaid, rhai oddi wrth y Sclafoniaid, rhai òddi wrth yr hen genedloedd Groeg a Lladin, a rhai oddi wrth yr Arab- iaid. Mae'r Tyrciaid yn llefaru un iaith, a lîofarir gwa- hanol ieithoedd ereill gan y lleill o'r trigoliou. Mae rhai o genedloedd Twrci yn byw mewn pebyll, ac yn mudo o le 80—Awst, 1873.