Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§. ^sjaill (Sglujpifl. YR EGLWYS YNG NGHYMRU FEL Y MAE. Gofynir y cwestiwn yn aml, a yw'r Eglwys yn cynnyddu ac yn adennil tir yng Nghymru ? Tybiwn, er ei holl ddiffygion, y gellid ateb y cwestiwn yn gadarnhaol; eithr nid pob un sydd yn ateb felly. Gwell i bob un famu drosto ei hun. Nid wrth eistedd dan y dderwen, a syllu arni, y mae ei gweled yn tyfu; ond os delir sylw arni un fiwyddyn, ac edrych arni drachefn ytn mhen pump, neu ddeg, neu bymtheg mlynedd, gwelir ei thyfiant yn amlwg, os y bydd yn tyfu o gwbl. Feliy, nid yw'r bobl ieuainc yn gallu ffurfío barn gywir yng nghylch cynnydd yr Eglwys; ond am y bobl mewn oedran, y rhai sydd yn cofìo ei chyflwr ddeg ar hugain, neu ddeugain, neu hanner can mlynedd yn ol, ac yn gallu cymharu yr hyn yw hi yn awr â'r hyn ag oedd hi y pryd hwnw, y maent hwy yn gymhwys i farnu. Gwaith graddol yw dyfod i fyny. Mae pob peth yn myned i lawr yn gyfiymach nag y daw i fyny. Cyll y claf ei nerth mewn ychydig ddiwrnodau, eithr cymmer wythnosau i ddyfod yn gryf draehefn. Tafiwn olwg ar yr Eglwys yn ei gwahanol ranau. Onid oes Uawer Eglwys newydd wedi ei hadeiladu, a llawer iawn o hen rai wedi eu hailadeiladu, eu hadgyweirio, a'u hadnew- yddu ? Mae yr olwg arnynt yn hardd oddi allan, a'u dodrefn oddi fewn yn fwy cyfiëus, ac yn fwy tebyg i'r hyn a ddylai teml i'r Goruchaf fod. Mae boneddigion y wlad yn teîmlo dyddordeb ynddynt, ac yn cyfranu yn fwy helaeth tuag atynt. Mae hyn, mor bell ag y mae yn myned, yn brawf o gynnydd, ac yn dangos fod ganddi blant eto yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi. Gwir fod ambell un eto yn ddigon llwyd ei gwedd, yn llwydach nag ysgubor newydd yr amaethwr, a'i dodrefn yn salach yr olwg arnynt nag ystabl newydd y boneddwr. 7d—Gorphenaf, 1873.