Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<Ç$:Jf.aiH Ẃjluigaií. CONFFIEMASIWN. Y mae yn hysbys i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr y Cífaill Eglwysig yn Esgobaeth Ty Ddewi, fod yr esgob yn bwr- iadu gweinyddu yr ordinhâd eglwysig hon trwy yr esgob- aeth yr haf hwn sydd yn dyfod. Mae yr esgob wedi rhoddi rhybudd i offeiriaid pob plwyf, fel y byddo iddynt yn ddiwyd barotoi y rhai fyddo yn cael eu conffìrmio, trwy eu haddysgu yn y Catecism, yng nghyd â natur a phwysigrwydd yr ymrwymiad a fyddant yn gym- meryd arnynt. Nid ein bwriad presennol yw egluro, neu brofí ysgryth- yroldeb yr ordinhâd hon. Gwna offeiriad pob plwyf hyn yn ei blwyf ei hun; ond yn hytraeh annog rhieni, Tadau a Mamau Bedydd, penau teuluoedd, ac athrawon yr Ysgol Sul, i gynnorthwyo eu gweinidogion plwyfol yn y gorchwyl pwysig hwn. " Hyffordda blentyn ym mhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedy â hi.?' Dywedir wrth y Tadau a Mamau Bedydd, pan wrth y fedyddfan, " Ithaid i chwi edrych dwyn y plentyn hwn at yr esgob i'w gonffiì'mio gauddo, cyn gynted ag y medro ddywedyd y Credo, Gweddi'r Arglwydd, a'r Deng-air Deddf, yn yr iaith gyffredin, ac yr addysger ym mhellach yng Nghatecism yr Eglwys a osodwyd alian ar fedr hyny." Gobeithio fod y Tadau a Mamau Bedydd a ddarllena'r llinellau yma, i gyd yn ol gosodiad yr Eglwys yn gym- munwyr ac yn ddynion difrifol. Mae yr Eglwys wedi dyoddef cam mawr trwy fod dynion anystyriol, yn gwbl groes i'w rheolau (gwel Canon 29), yn cael eu goddef ger bron Duw a'r gynnulleidfa i ateb a dywedyd pethau ag y gwyddant hwy eu hunain, yn gystal a'r holl gynnulleidfa, pan yn ateb, nad ydynt fawr gwell na chellwair â phethau 78—Mehefin, 1873.