Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

•<$8faill ŵflluipifl. BRASLUN 0 BEEGETH. "A dywedodd yr holl bobl Amen, gan foliannu yr Arglwydd."— 1 Croniel xvi. 36. Ystye Amen yw gioir, gair yn arwyddocäu cydsyniad neu ymuniad yu y peth a draethir neu a ddarllenir. "A dywedodd yr holl bobl Amen," sef ar ddiwedd cân o fawl a diolch. Yr achlysur oedd synnnudiad yr arch o dy Obed-edom i'r babell newydd a wuaethai Dafydd. Cyfau- soddodd, neu yn hytrach casglodd, Dafydd salm fawreddog ar gyfer yr achlysur pwysig hwn, ac a'i rhoddodd yn Uaw Asaph a'i frodyr i'w chauu—salm wedi ei gwueyd i fyuy o ddarnau o amrywiol salmau. Nid yw y testyn ei hun yn amgen na chyflawniad o orchymmyn a roddir i lawr yn Salm cvi. 48: "A dyweded yr holl bobl Amen. Molwch yr Arglwydd." "A dywedodd yr holl bobl Amen, gan foliannu yr Arglwydd." I. Gwelwn yma fod addoliad y Tabernacl a'r Deml yn addoliad cynnulleidfaol. Gorchymmynai yí Arglwydd fod i bob uu gymmeryd rhyw ran yug ngwasanaeth y cyssegr. 1. Yr oedd gan bob uu ei offrwm i'w gyflwyno. "Nac ymddangosed ueb ger fy mron yn waglaw." 2. Yr oedd pob uu i gymmeryd ei ran yn addoliad cyhoeddus y cyssegr: "A* dyweded yr holl bobl Amen." Dywed traddodiad, mae yn wir, nad oedd yr holl bobl yn arfer dywedyd Amen yn y Deml. oddi eithr ar achlysuron neillduol. Yn lle hyny dywedent, " Bendigedig fyddo enw gogoniant ei deyrnas Èf yn oes oesoedd." Dywedent hyn ar ddiwedd pob gweddi a offrymid gan yr offeiriaid. Ond yn addoliad cyhoeddus y Synagog yr oedd yr holl bobl yn dywedyd Amen ar ddiwedd pob gweddi. Byddent felly 77—Mai, 1873.