Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

öfgfaill Ŵglttigísig. DYDD SANT SIMON A SANT IWDAS. Dydd Sant Simon a Saut Iwdas yw'r wythfed dydd ar hugain o Hydref. Fel y dyddiau gwyliau ereill ag sydd wedi bod dan ein sylw, darllenir arno Lithiau, Colect, Epistol, ac Efengyl priodol iddo. Y Llithiau, yn ol yr heu daflen, yn y boreu ydynt Iob xxiv. a xxv. a Luc xiv., ac yn y prydnawn Iob xlii., a Phil. ii.; ac yn ol y daflen newydd, yn y boreu Esai xxviii. 9—17, a I Tim. v., ac yn y prydnawn Ieremiah iii. 12—19, a Luc xix. 28—48. Yr Epistol yw Iwdas i. 1—8, a'r Efeugyl yw Ioan xv. 17—27; a'r Colect sydd fel y canlyn:—"Hollalluog Dduw, yr Hwn a adeiìedaist dy Eglwys ar sail yr Apostolion a'r Prophwydi, ac Iesu Grist ei Hun yn ben conglfaen; caniatâ i ni fod felly wedi ein cyssylltu yng nghyd yn undeb ysbryd gan eu dysgeidiaeth hwy, fel y'n gwneler yn sanctaidd deml gymmeradwy genyt, trwy Iesu Grist ein Harglwydd." 1. Simon oedd un o'r deuddeg Apostol; gelwid dau o'r Apostolion yn Simon; un oedd Simou, yr hwn a elwir Pedr, yr hwn oedd uu o'r rhai mwyaf hynod o'r Apostolion, ac am yr hwn ceir hanes helaeth yn y Testament Newydd; a'r lîall oedd Simon y Canaanead, fel y gelwir ef gan Sant Matthew (x. 4) a Sant Marc (iii. 18), neu Simon Selotes, fel y gelwir ef gan Saut Luc yn ei Efengyl (vi. 15), ac yn Actau i. 13. Tybia rhai y gelwid ef Simon y Canaanead am mai genedigol o Cana yn Galilea oedd, ond nid oes sail i'r dybiaeth hon; ond ereill gyda mwy o reswm a olygant mai'r un ystyr yw'r gair Canaanead yn Sant Matthew a Sant Marc a'r gair Selotes yn Sant Luc— mai ystyr y geiriau hyn yw " selog," ac y gelwid Simon wrth y cyfenw Canaanead neu Selotes, naill ai o blegid y 75—Mawrth, 1873.