Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ <$gfaill êfllmpig. DYDD SANT LUC YR EFENGYLWR. Dtdd Gwyl Sant Luo yw'r deunawfed dydd o fis Hydref, ac mae iddo, fel i ddyddiau y gwylíau ereill ag sydd wedi. bod dan ein sylw, Lithiau, Epistol, Efengyl, a Cholect priodol. Y Llithiau priodol ara y dycld, yn ol yr heu dafìen, ydynt yn y boreu Eccles. 11 a Luc iv., ac yn y prydnawn Iob i. a Gal. iv.j ac yn ol y dafien newydd, yn y boreu Esai lv. a 1 Thes. iii., ac yn y prydnawn Eccles. xxviii. 1—15, a Luc xiii. 18—43. Yr Epistol am y dydd yw 2 Tim. iv. 5—15, a'r Efeugyl yw Sant Luc x. 1—7; a'r Colect sydd fel y caulyn:—"Hollalluog Dduw, yr Hwn a elwaist Luc y physigwr, yr hwn y mae éi glod yn yr Efengyl, i fod yn efengylwr a physigwr i'r enaid; rhynged bodd i Ti, trwy iachus feddyginiaeth ei ddysgeidiaeth ef, iachäu holl heintiau ein heneidiau, trwy haeddedigaethau dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd." Yr enw Luc sydd yn tarddu o'r iaith Lladin; ei ystyr yw goleu. Treiglir ef o ran ei wreiddyn o'r gair Lladin lux, goleuni, ac mae Luc yn ei ysgrifeniadau yn defnyddio wrth ysgrifeuu yu y Groeg rai geiriau a dreiglir o'r Lladiu. Ond mae hanes persouol Luc yn ansicr; ni ddy- wedir dim yn benderfynol am ei genedl a'i enedigaeth, ac am ei fywyd a'i farwolaethj ond mabwysiadir llawer o wahanol dybiau yn ei gylcb. Myn rhai mai cenedlddyn oedd, ac ystyriant y cadarnhëir y dybiaeth hon gan Sant Paul, pan yn ei Epistol at y Colossiaid mae yn euwi Sant Luc ar wahân oddi wrth Iesus ac ereill. y rhai oeddynt "o'r euwaediad" (Col. iv. 11—14); a myn rhai ei fod yn broselyt i'r grefydd Iuddewig, ac mai priodor o Antiochia yn Syria oedd, ac mai yno y derbyniodd ei addysg. Myn ereill mai efe a feddylir wrth "Lucius o Cyrene" a enwir Ji—Chwefror, 1873.