Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dHîJfaiI'l (Sfllujpig. Y DYDD 0 EIRIOLAETH.. Gweddi droB ereill yw eiriolaeth. Mae yn newydd ar gof ein darllenwyr fod yr ugeinfed o Ragfyr diweddaf wedi ei neillduo i weddio ar i Dduw ennyn ysbryd cenadol ym mynwesau dynion ieuainc i fyned allan i bregethu Crist i'r Pagauiaid. Ar y dydd penodedig yr oedd llawer o Eglwysi â chynnulleidfaoedd Uuosog, bywiog, a gwresog ynddynt; mewn llawer ereill yr oedd y cynnulleidfaoedd yn deneu, sychlyd, a difywyd. Mae hyn yn brawf fod eisieu galw sylw yr Eglwys yn gyffredinol at yr achos grasol a gogoneddus hwn. Mae rhai, ar enw Cristion- ogiou, yn chwilio am wrthddadleuou ac esgusodion, ond y mae'r commissiwn yn aros yn ei rym, " Ewch i'r holl fyd," " Dysgwch yr holl geuedloedd." Mae'r cyfarwyddyd hefyd yn aros, "Atolygwch i Arglwydd y cynauaf anfon gweith- wyr i'w gyuauaf." Gwnaeth llawer o'r Eglwysi Presbyteraidd yn yr Alban uno ag Eglwys Lloegr yn eu gweddîau ar y dydd. Wrth ddarllen rhanau o amryw bregethau a draddodwyd ar y dydd, yr ydym yn gweled fod dau beth yn cael eu hystyried fel yn brif rwystrau ar ffordd llwyddiant y geuadaeth, a hyny o du y Cristionogion eu hunain. Uû peth yw ymraniadau Cristionogion: mae'r Paganiaid a ddeuant i Loegr, a'r Paganiaid ym mhlith y rhai y mae'r ceuadon yn llafurio, yn dal sylw ar yr holl bleidiau crefyddol, a'r genfigen sydd gan y naill at y llall; ac y mae yn uaturiol iddyut ddywedyd, " Cytunwch yn eich plith eich huuain yn gyntaf, ac yna deuwch atom ni, ac ni a wrandäwn arnoch." 0! pryd y daw Cristionogion i weled y drwg a'r niwed o'u rhwygiadau anorphen! Y rhwystr arall yw by wyd anghysson y rhai a alwant eu hunain yn Gristionogion: pan yn masnachu â'r Paganiaid 73—Ionawr, 1873.