Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

j/ M ff/'/l dgîúll <%ÍJtogsi0. YMREOLAETH. , MREOLAETH yw y gair a ddefnyddir yn gyffredin am Home Rule. Hwu yw pwnc mawr y dydd. Mae y Gwyddel wedi meddwi arno, ac y mae ambell i Gymro gwyllt ac ynfyd wedi cael y clwyf oddi wrtho. Nid ydym ni yn awr yn myned i drin y pwnc yn ei ystyr wleidyddol. Gwastraff ar amser a gofod fyddai hyny. Y mae llawer gormod o amser y cyhoedd wedi cael ei wastraffu arno yn barod. Ein hamcan ni yn awr ydyw galw sylw at ymreolaeth ag sydd yn llawer mwy pwysig, sef ymre- olaeth corff a meddwl. Talai hwn yn llawer gwell i bob Gwyddel a Chymro sydd yn breuddwydio ac yn ffraeo cymmaint am y llall. Gadawer i ui alw sylw at ddau neu dri o bethau ag y mae angen mawr eu rheoli. YNwydau ar Chwantau.—Gweilch ag sydd yn cael gormod o lawer o raff ydyw y rhai hyn, a pho fwyaf oll o raff a gânt, mwyaf oll a fynant. Nis gellir dechreu ar y gwaith o'u ffrwyno yn rhy fuan. Y mae iddynt eu lle, ond nid eu lle yw bod yn feistriaid: gwreision ydynt i fod. Eu cadw yn gaeth a ddylid,.ac nid gadael iddynt gael eu ffordd eu huuain. Magaut nerth yn fuan wrth eu porthi. Tyfant ar yr hyn yr ymborthant arno. Mae llawer o ddynion wedi myned yn gaethweision iddynt. Un o'r pethau mwyaf anhawdd ydyw ymryddhau o'u gafael. Wrth hir ymgyn- nefino â'r ddiod y mae'r meddwyn yn myned yn gaethwas iddi. Ei dduw yw ei fol, ac y mae yn ymffrostio yn ei gywilydd. Y mae yn colli pob rheolaeth ar ei reswm, ar ei dafod, ar ei law, ac ar ei bob- peth mewn amser. Perthyn i ddosbarth caethion y nwydau a'r chwantau y mae'r glwth hefyd, a'r cybydd, y balch a'r drw gei dymmer. Dyma faes yn ein gwlad sydd yn gofyn ei arloesi a'i drin a'i ddiwyllio. Gresyn na weithia Ymreolwyr Cymru a'r Iwerddon fwy yn y maes hwn, sef naaes y nwydau a'r chwantau. Gwnaent 283—Gorpkeiiafy'ÎS90.