Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ Cgfaill %Ifogsig. BARNAÜ AM Y BEIBL. N ddiweddar fe draddododd ArcbddiacoD Farrar ddarlith i ddynion ieuaiuc ar y Beibl. Ym mhlith llawer o bethau LLf buddiol ereill, efe a ddyfynodd farnau amryw wŷr o ddysg C^) ac o fri am y Beibl—gwŷr nad oeddynt na duwinyddion ùac offeiriaid. Faraday.—" Pan wyf yu darllen y llyfr hwn, ac yn gweled ei fod yn abl i arwain pawb ar hyd yr iawn ffordd, os yr ewyllysiaut. nis gallaf lai nag wylo wrth feddwl am yr holl bechod a'r trueni sydd yn y byd, yr hyn_a ddygant arnynt eu hunain trwy anufudd-dod i'w orchymmynion." Huxley, yr hwn nid yw yn credu yn y Beibl, wrth ysgrifenu o barth i gadw y Beibl allan o'r ysgolion dyddiol, a ddywed, " Yr wyf mewn trallod meddwl am nad allaf weled pa fodd y cedwir y teim- lad crefyddol yn fyw, yr hyn sydd yn hanfodol i fywyd moesol, heb y Beibl. Trwy ddarllen y Beibl nid yw y llafurwr distadlaf na fu erioed allan o olwg mwg y tý y ganwyd ef, heb wybod am wledydd ereill, a chenedloedd ereill, ac am hanes yr oesau a aeth heibio, mor bell ag y mae hanes dyn ar y ddaiar yn myned. Pa fodd y gall plant ddeall a theimlo eu bod yn ddynion, ac nad yw pob dyn yn fwy na hwythau yn llanw ond lle bychan yn yr orymdaith fawr yn y cyfnod rhwng tragwyddoldeb a thragwyddoldeb? pa fodd y maent yn ennill iddynt eu hunain fendith neu felltith yr oesau, yn ol fel y maent yn dilyn y da ao yn casäu y drwg, yr un fath ag y maent yn ennill cyflog am eu gwaith beunyddiol?" Peabody, yr hwn oedd wr o gyfoeth mawr, a'r hwn a roddodd filiwu a hanner o buunau at godi tai gweithwyr yn Llundain. Ni roddodd neb gymmaint mewn un swm erioed. Efe a ddywedodo, " Yr wyf yn wastad yn gweddîo ar fy Nhad Nefol am roddi nerth i mi i wneuthur rhyw ddaioni i'm cyd-ddynion cyn fy marw, yn 276—Bhagfyr, 1889.