Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CgfaiII %Ifo|rst0. ADUNDEB CREFYDDOL. 'ID ychydig o sylw sydd wedi ei dalu i'r testyn o Adundeb Crefyddol y dyddiau presennol. Y llynedd bu dan sylw yn y gynnadledd o esgobion o bob gwlad, ym Mhalas Lambeth. Yr ydys wedi bod yn siarad arno yn yr Undeb Cynnulleidfaol, yn Undeb y Bedyddwyr, yng Nghymmanfa y Meth- odistiaid, mewn amryw o'r Cynnadleddau Esgobaethol, ac yn y Gyngres yng Nghaerdydd. Mae Eglwyswyr yn medru siarad arno yn rhydd a rhwydd, mewn ysbryd teg a phwyllog. Mae Undeb Crefyddol yn un o'u hegwyddorion ac yn ddeisyfiad yn eu gweddîau. Mae'r Ymneillduwyr yn ymdrin ag ef megys rhai yn cydio mewn marworyn. ac ofu llosgi eu dwylaw arnynt. Nid yw yn gydnaws â'u bodolaeth. Er hyny, y mae rhai o honynt hwy yn hiraethu am undeb. Mae y rhan fwyaf o honynt wedi dyfod mor bell a hyn, i addef fod pedwar capel mewn pentref byehan yn achos o wendid yn hytrach nag o nerth, yn wastraff ar arian, ac yn wastraff ar Jafur. Byddai un capel ac un bugail yn well na phedwar. Cam cywir yw eu cael i deimlo ac i addef hyn. Rhydd hyn obaith am y dyfodol. Mae Iarll Nelson megys wedi cymmeryd y pwnc hwn dan ei ofal neillduol ei hun. Efe a ddadleua dros undeb ar bob adeg. Nid am ei fod yn dysgwyl y gwelir undeb yn ei ddydd ef, eithr cred fod y peth yu bosibl. ac felly y mae yn foddlawn gwedd'ío a gweithio am dano mewn amynedd ac mewn ffydd. Gwelwyd undeb ym moreu- ddydd Cristionogaeth. a phaham na welir adundeb yn ei phrydnawn- ddyddî O'r hyn lleiaf, efe a deimla fod tir cadarn dan ei draed, a'i fod yn Uafurio yn unol ag ewyîlys Crist. Mae ef yn dyheu am weled undeb rhwng yr holl enwadau yn y wlad hou, a rhwng y rhai a enw- ant euw Crist ar wyneb yr ho]l ddaiar. ■275—Tachwedd. 1889.