Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§| Cgfailí êgltogsig. DEFOSIWN. (YDDAI yn dda meithrin a gweled mwy o ddefosiwn yn addoliad yr Eglwys nag sydd. Nid ydym am gymharu defosiwn aelodau yr Eglwys ag eiddo aelodan Eglwysi Groeg a Rhufain ar y naill law, nac â'r eiddo aelodau yr enwadau Ymneillduol ar y llaw arall; eithr edrych arni fel y mae ynddi ei hun. Hen air yw defosiwn a arferir yng nglŷn ag addoliad Duw am ostyngeiddrwydd, difrifoldeb, taerineb, gwylder, a pharchedig ofn. Yn yr hen Lyfrau Gweddi darllenir, " Yr hwn o'th raslon ddaioni a wrandewaist ddefosiynol weddîau dy Eglwys." Yn y llyfrau pre- sennol ni a ddarllenwn, " Yr hwn o'th raslon ddaioni a wrandewaist ddifrifol weddiau dy Egìwys." Mae gwir ddefosiwn yn cynnwys teimlad tufewnol y galon, yn gystal ag agwedd allanol y corff. Mae yn bosibl fod agwedd y corff yn ostyngedig, a hyny yn arwynebol, heb un gradd o deimlad yn y galon oddi mewn. Rhagrith yw hyn. Eithr lle mae teimlad dwys a gwirioneddol yn yr ysbryd y mae yn sicr o ddangos ei hun yn agwedd ostyngedig y corff. Pan mae dyn yn wir addolwr y Tad, y mae yn addoli â'r oll o'r dyn, y corff a'r enaid. Wrth edrych ar gynnulleidfa yn dyfod i mewn i'r Eglwys, yn yr Eglwys, ac yn myned allan o'r Eglwys, a ydynt yn creu yr argmff arnom eu bod yn addoli Duw ? Yr oedd Sant Paul am i'r addoliad fod yn y golwg yn gystal ag yn y galon, fel y byddai y digred a ddeuai i mewn, wrth eu gweled a'u clywed, yn syrthio ar ei wyneb ac yn arìdoli Duw, gan ddywedyd fod Duw yn eu plith. Gwahoddiad y Salmydd ydyw, "Deuwch, addolwn ac ymgrymwn; gOBtynewn ar ein gliniau ger bron yr Arglwydd ein gwneuthurwr." Yr oedd ef yn wr defosiynol. Cynghor y pregethwr yw, " Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dŷ Dduw, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyl- iaid, canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg." Diosg 27i—Hydref, 1889.