Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CgfaiII (%Iírr|ísÌ0, GWEINIDOGAETH YR EGLWYS. /R oedd gweinidogion yn Eglwys Crist yn oes yr Apostolion. Nid oes un oes wedi bod oddi ar hyny hyd yn awr heb weinidogion yn yr Eglwys, hyny yw, gwŷr wedi eu neillduo a'u hordeinio i waith y weinidogaeth. Gweinidogion yr Eglwys ydynt esgobion, offeiriaid neu henuriaid, a diacouiaid. Cyfieithad llythyrenol y gair Seisoneg priestyw hen- uriad. Mae yma dair gradd, tair urdd, yn y weinidogaeth. Yd y rhagyrnadrodd i'r Ffurf urddo esgobion, offeiriaid, a diaconiaid, iaitb yr Eglwys yw hyn : "Hysbys yw i bawb yn dyfal ddarlleu yr Ys- grythyr Lân a hen Awdwyr fod y graddau byn o Weinidogion yn Eglwys Crist er amser yr Apostolion, sef Esgobion, Offeiriaid, a Diaconiaid." "Ac ni dderbynir neb yn Ddiacon hyd oni bo yn dair blwydd ar hugain o oedran, oddi eithr iddo gael cenad. A bydded pob un a dderbynir yn offeiriad, yn llawn bedair blwydd ar hugain o oedran. A bydded pob un a urddir neu a gyssegrir yn esgob, yn gyflawn ddeng mlwydd ar hugain o oedran." Felly yr ydym yn darllen yn y Testament Newydd am apostolion ac angylion, y radd gyntaf; am esgobion ac henuriaid, yr ail radd; am ddiacouiaid, y drydedd radd. Ar ol marw yr apostolion, galwyd y radd gyntaf yn esgobion; yr ail radd yn heuuriaid; y drydedd radd yn ddiaconiaid. Mae hyn yn eglur yn llythyrau Sant Tguatius, lle yr enwir yn bendant y tair urdd, esgobion, henuriaid, a diaconiaid. Yr oedd lgnatius yn ddysgybl i Sant Ioan. Esgob Antiochia, a chafodd ei ferthyru yn y flwyddyn 107. Yr oedd Ireuaeus yn esgob Lyons, yn Ffrainc, yn niwedd yr aiì ganrif. Mae yutau yn sou am y tair gradd o weinidogion yu ei amser ef, ac yn gallu ol- rhain yr esgobion a'r heuuriaid yn ol, o ddolen i ddolen, hyd amser yr apostolion. Mae hyn yn ddigon i ddangos beth oedd trefn gweiuidogaeth yr Eglwys yn y ganrif nesaf at yr apostolion. Fe ddaufonwyd yr apostolion gan Grist ei hun oddi eithr Saut 272—Awst, 1889.