Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CgfaHl <%Ifo|isÌ0. Y CREDOAU. 'AE tri chredo yn y Llyfr Gweddi Gyffredin—Credo yr Apostolion, Credo Nicea, a Chredo Sant Athauasius. Credo yr Apostolion. — Hwn yw y credo a arferir yn y Gwasanaeth Boreol a Phrydnawnol, ac yng Ngwasan- aeth y Bedydd. Dywed Ruffinus, yn y bedwaredd ganrif, am hen draddodiad, fod y deuddeg apostol, cyn ymadael o Jerusalem, wedi ffurfio credo er mwyn iddynt ddysgu yr un athrawiaethau ym mhob gwlad. Mewn pregetha briodolir i Sant Awstin, Esgob Hippo, yr hwn oedd yntau yn byw yn y bedwaredd ganrif, ceir y darlun canlynol:— " Dy wedodd Pedr, Credaf yn Nuw Dad Hollgyfoethog; Ioan, Creawd- wr nef a daiar; Iago, Ac yn Iesu Grist ei un Mab Ef,ein Harglwydd ni; Andreas, Yr hwn a gaed trwy yr Ysbryd Glân, a aned o Fair Forwyn; Phylip, A ddyoddefodd dan Pontius Pilatus, a groeshoel- iwyd, a fu farw, ac a gladdwyd; Thomas, A ddisgynodd i uffern, y trydydd dydd y cyfododd o feirw; Bartholomëus, A esgynodd i'r nef- oedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Duw Dad Hollgyfoethog; Matthew, Oddi yno y daw i farnu byw a meirw; Iago mab Alphëus, Credaf yn yr Ysbryd Glân, yr Eglwys Lân Gatholig; Simon Zelotes, Cymmundeb y s&int, maddeuant pechodau; Judas brawd Iago, Adgyfodiad y cnawd. Matthias, A"r bywyd tragwyddol." Er nad oes sail gadarn i'r traddodiadau uchod, eto hwy a ddang- osant fod y credo yn hen iawn; ac os na chyfansoddwyd ef gan yr Apostoliou, efe a gynnwys grynodeb byr o'r athrawiaethau a ddysgid ganddynt. Yug ngweithiau y tadau boreol, yr.ail a'r drydedd ganrif, ceir amryw gredoau, rhai yn hirach a rhai yn fyrach na'u gilydd. Y maent yn amrywio mewn geiriau, ond yn un mewn sylwedd. Tebyg mai y credo cyntaf oedd ffurf y bedydd—" Credaf yn y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân ;" ond fel yr oedd heresiau yn cyfodi, yr oedd 271— Gorphenaf, 1889.