Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

H CgfaiII (%IfcapÌ0. Y BEIBL. fLYFR rhyfedd yw y Beibl, yn ei awdwr, yn ei gynowys. yn ei amcan, yn ei enw, yn ei hanes. Dywedodd un am dano, raai Duw yw ei awdwr, mai gwirionedd yw ei sylwedd, ~~ mai iachadwriaeth yw ei amcan. Cyn dyfod at wreiddyn ei enw, y Beibl, rhaid i ni fyned i wlad yr Aipht. Tyfai llafrwyn lawer ar lenydd y Nilus. Gwnaeth Jockebed gawell o lafrwyn, ac a osododd y bachgen ynddo, ac a'i rhoddodd ym mysg yr hesg ar fin yr afon O dan y rhisgl uchaf yr oedd math o blisg am gorsen y llafrwyn. Dattodai yr Aiphtiaid hwn ymaith yn ofalus, a dodent ef ar fwrdd gwastad â phwysau arno. Wedi sychu yr oedd yn ddalen wen ei lliw a llyfn ei gwyneb. Ar y dail hyn yr arferent ysgrifenu. Gelwid y llafrwyn papyrus. Dim ond tynu ymaith y sill olaf mae papyr yn aros. Gelwid y dalenau byblus. Wrth adael y 8Ìll olaf allan yr ydym yn cael y gair bybl. Oddi wrth blisgyn y ílafrwyn, byblus y papyrus, daeth y gair bibl yn enw ar bob llyfr; ac fel y llyncodd gwialen Aaron wiail y swynwyr, mae y Beibl yn awr wedi llyncu yr holl lyfrau ereill, ac ni adwaenir yr un llyfr wrth yr enw Beibl, ond y Gyfrol Ysbrydoledig, Y Beibl. Mae y dyn ieuanc yn barod i feddwl mai un llyfr ydyw, neu ddau o'r mwyaf, a'i fod wedi ei ysgrifenu gan ychydig o ddynion duwiol mewn un oes. Tra yn hollol wahanol, er mai un yw yr awdwr, sef Duw, mae yr ysgrifenwyr ynllawer. tl Dynion sanctaidd Duw a lefarasant raegys y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân." "Yrholl Ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw." Gwneir y Beibl i fyny o amrywiol draethodau, gan amrywiol ysgrifenwyr, mewn amrywiol amgylchiadau, ar wahanol amserau. Gelwir hwy yn Ysgrythyrau, hyuy yw, ysgrifeniadau. Mae pedwar ar bymtheg ar hugain o draethodau yn yr Hen Destament, a saith ar hugaiu yn y Testament Newydd. Buwyd bymtheg cant o flyuyddau yn eu hysgrifenu. Rhwng yr amser yr ysgrifenodd Moses Genesis, y llyfr cyntaf, a'r amser yr ysgrifenodd Sant Ioan y 269—Mai, 1889.