Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cgfailí Ŵ0Ífogsi0. LLYFRAU Y BEIBL. DADGUDDIAD. ANT Ioan ydyw awdwr Llyfr y Dadguddiad. Mae efe wedi rhoddi ei enw ynddo. " Efe a'i hysbysodd i'w waaan- aethwr Ioan." " Myfi, Ioan, yr hwn wyf eich brawd." Mae Sant Ioan wedi ysgrifenu yr Efengyl sydd yn dwyn ei enw, tri Epistol, a Llyfr y Dadguddiad. Bernir iddo ysgrifenu y llyfr hwn yn agos i ddiwedd ei oes, o ddeutu y flwyddyn 96, ac efe yn alltud yn Ynys Patmos. Yr oedd Jerusalem wedi syrthio, y deral wedi ei dinystrio, y genedl Iuddewig wedi ei gwasgaru, a'r Apostolion ereill wedi eu raerthyru. Efe yn unig o'r deuddeg oedd yn aros, ac yr oedd wedi gwneyd ei gartref, mor bell ag yr oedd cartref ganddo, yn Ephesus. Yr oedd yr Iuddewon wedi colli eu gallu i erlid dysgyblion Iesu o Nazareth. Yr oedd eu blinderau eu hunain wedi eu darostwng. Erbyn hyn, yr oedd y Cristionogion wedi Uuosogi, ac yn achosi pryder i'r gallu- oedd cenedlig—i'r awdurdodau yn Rhufain. Yn y flwyddyn 94, • cafodd yr Apostol Ioan yn ei hen ddyddiau ei alltudio i Ynys Patmos. Dornitian, gwr creulawn ac erlidgar, oedd yr ymherawdwr ar y pryd. Nid tebyg i'r apostol orfod aros yno am lawer o fiynyddau, oblegid bu Domitian farw yn 96. Ynys fechan, rhyw bymtheg milltir o amgylchedd, yw Patmos, rhwng tir Asia a thir Groeg. Nid yw ym mhell o Miletus. Nid oes coedydd yn tyfu arni nac afonydd yn rhedeg trwyddi. Er hyny y mae ambell i lanerch fechan tra ffrwythlawn ynddi. Yn yr amser gynt, gwin Patmos oedd y gwin cryfaf yn Ynysoedd Groeg. Dywedir fod o bedair i bum mil o drigolion yn byw ar yr ynys yn awr, a bod Eglwys fechan yn agos i'r ogof Ue y tybir i Sant Ioan weled y gwel- edigaethau a'u hysgrifenu mewn llyfr. Ar y bryn uwch ben y saif mynachlog, yr hyn a ddengys fod ychydig o oleuni wedi aros yn Patmos hyd y dydd hwn. 268—Ebrill, 1889.