Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

U Cgfaill %Itopi0. LLYFRAU Y BEIBL. 2 A 3 IOAN. /N y Beibl Cymraeg gelwir y ddau epistol hyn yn Ail Epistol CyffrerìÌDol a Thrydydd Epistol Cyffredinol Ioan yr Apos- tol. Nid epistolau cyffredinol ydynt, ac nis gelwir hwy C^) felly yn y Beibl Seisoneg. Epistolau neillduol ydynt, wedi eu danfon at bersonau unigol. Dau epistol byr ydynt, pennod bob un. Yn y cyntaf mae yr apostol fel henuriad yn aDerch yr Etholedig Arglwyddes a'i phlant (Eclecte Cyria yn y Groeg). Tybia rhai mai Eclecte oedd ei henw, a'i fod felly yn anerch yr Arglwydrìes Etílecte. Tybia ereill mai Cyria oedd ei henw, a'i fod yu anerch yr etholedig Cyria. Tebyg mai y Cyfieithad Awdurdod- edig sydd gywir, ac mae y Cyfieithad Diwygiedig yr un peth : "At yr etholedig Arglwyddes a'i phlant." Naturiol meddwl ei bod yn byw yn rhywle yn Asia Leiaf;J ao efallai heb fod ym mhell iawn o Ephesu8, a bod ganddi chwaer â phlant iddi yn byw yn Epbesus. " Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy anerch." Yr oedd efe yn gobeithio cael eu gweled cyn hir. Gesyd Sant Ioan bwys mawr ar ddal athrawiaeth iachus, ar ddy- fodiad Iesu Grist yn y cnawd. Os oedd neb yn gwadu y ddysgeid- iaeth hon, nid oeddynt i ddyweyd " Duw yn rhwydd " iddo. Yn y trydydd epistol y mae yr apostol yn anerch ei anwyl Gams. Tebyg mai gwr lleyg o anrhydedd a dylanwad ydoedd Gaius, yn byw yn Asia Leiaf. Yr oodd ef ar ddanfon gwýr o gen- adon heibio i'r lle hwnw, â'u neges i bregethu Crist i'r Cenedloedd heb dderbyn dim ganddynt. Yr oedd ef am i Gaius eu hebrwng ar eu taith. Yr oedd yn siarad yn ddifrifol am y ddysgyblaeth, ac yn bygwth ceryddu Diotrephes yn llym pan y deuai heibio ei hun. Yr oedd ganddo gyfaill yn Demetrius, i'r hwn yr oedd gair da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Ond yr oedd Diotrephes yn wr ystyfnig, ac yn peri blinder i'w ysbryd. Yr oedd gan Sant Paul ej ilexander, ei Hymeneus, ei Philetus, ei Hermogenes, a'i Phygellus 266—Chwefror, 1889.