Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| ^ífaiU «fllujpiju LLYFRAU Y BEIBL. 1 ST. 10 AN. Fe ysgrifenodd St. loan yr Efengyl sydd yu dwyu ei enw, tri episto], a Llyfr y Dadguddiad. Gelwir yr epistol cyntaf yn Epistol Cyntaf Cyffrediunl Ioan yr Apostol. Nid yw enw Sant loan ynddo. uac yn ei ddechreu na'i ddiwedd, eithr y mae wedi cael ei briodoli bob amser i St. Ioan, ac v mae yr iaith a'r athrawiaeth yn profi fod yr Efengyl a'r Epistol wedi eu hysgrifenu yan yr uu apostol. Gelwir ef yn epistol cyffredinol o blegid nad oes un awgrym yuddo ei fod wedi ei ddaufon at unrhyw Eglwys nedlduol, nac at uurhyw berson unigol. Mae hen dra- ddodiad fod St. Ioan wedi bod yn pregethu Crist i'r Parthiaid, ac iddo ysgrifenu yr epistol hwu atynt hwy; ond nid oes gwir sail i'r cyfryw draddodiad Os ysgrifen- wyd ef er mwyn addysg rbai Cristionogion yn fwy na'u gilydd, mwy tebyg iddo gael ei ddanfon at Eglwysi Asia. Nid oes dim ynddo yn ei gyfyngu i Gristionogiou un wlad yn fwy ua'r llall. Ni fynegir ym mha le na pha bryd yr ys^rifenwyd ef. Ac yng nglŷn â hyn mae amrywiaeth barn nid bychnu Os y cafodd ei ysgrifenu cyn dinystr Jerusalem tebyg mai yn Jerusalem yr oedd yr apostol ar y pryd Eithr os, yn ol y farn fwyaf gyffrediu, mai ar ol y flwyddyn pedwar ugain a deg yr ysgrifeuwyd ef, rhaid fod Ioan yr amser hwnw naill ai yu Patmos neu yn Ephesus. Tebycaf mai yn Ephesus yr ydoedd, ac iddo ysgrifenu yr epistol o ddeutu y fiwyddyn 98. 0 barth i amcan yr epistoì dracbefn, mae esbonwyr yn amrywio yn eu baro. Sicr ydyw fod yr apostol am gadarnhau y Cristîotiogion oeddvnt yn aros yng nghym- 26ô—Ionawr. 1889