Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cgfaill %Ifogsijg. -*■ MOSES AR BEN PISGAH. y^t'YFABFU Balaam a Moses â'u gilydd ar ben Pisgah, mynydd fi . uchel o'r tu dwyrain i afon yr Iorddonen, ar gyffiniau tir \£-r Moab. Trum uchaf y mynydd yw Nebo. Dyma lle gorphenodd W Moses, gwr Duw, ei yrfa hirfaith a llafurus. Yma y cafodd hamdden i edrych yn ol ar ei ymdaith, ac edrych ym mlaen ar y dyfodol. Oauwyd ef allan o Wlad yr Adàewid o blegid iddo golli ei dymmer wrth ddyfroedd Meribah. Ië, Moses. y llarieiddiaf o saint yr Hen Destament, yn colli ei dymmer! Megys Abraham, tad y ffyddloniaid, yn colli ei ffydd yn Nuw yn yr Aipht. Y mae diffyg yn rhinweddau amlycaf y saint mewn byd o bechod. ' Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynhen, fel y bu ddrwg i Moses o'u plegid hwynt; o herwydd cythruddo o honynt ei ysbryd ef, fel y cam- ddywedodd â'i wefusau,' Salm cvi. 32, 33. Yr amgylchiadau crybwyll- edig a ddygwyddasant yn anialwch Sin, ger llaw Cades, lle y bu farw Miriam. Grwgnachodd y bobl yn erbyn Moses ac Aaron o herwydà nad oedd ganddynt ddwfr. Aeth Moses â'r achos o fiaen yr Arglwydd, ±0b—MedL 1900.