Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 <tííaiU tigittgtig. LLYFRAÜ Y BEIBL. 1 A 2 PEDB. St. Pedr oedd awdwr y ddau epistol sydd yn dwyn ei enw. Yr oedd arno dri enw—Simon, Pedr, a Cephas—y ddau olaf yn golygu yr un peth, sef careg. Jona oedd ei dad; Andreas oedd ei frawd; pysgota oedd ei alwedigaeth; Beth- saida oedd y dref yr oedd yn byw. Yroedd yn wr tanllyd ei dymmer, byrbwyll ei air, a brysiog ei weithred. Efe a agorodd ddrws teyrnas nefoedd i'r Iuddewon ar ddydd y Pentecost. Efe a agorodd y drws i'r Cenedloedd pan y bedyddiodd Coruelius a'i deulu yn Cesarea. Efe a fu yn pregethu Crist yn Corinth, yn Babylon, ac yn Rhufain. Nid oes un prawf iddo fod erioed yn esgob Rhufain, ond y mae hanes yn bur foreu iddo fod yn Rhufain, ac iddo gael ei groeshoelio yno, a'i groeshoelio ar ei gais ei hun â'i draed i fyny a'i ben i lawr. Efe a'i hystyriai yn armod o anrhydedd i gael marw yn gywir yr un fath a'i Arglwydd. Efe a ysgrifenodd y ddau lythyr at y dyeithriaid oedd ar wasgar ar hyd Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithynia. Tybia rhai mai Iuddewon crediniol oedd y dyeithriaid hyu; ereill, mai Cenedloedd oeddynt; ereill, mai proselytiaid oeddynt. Tebyg mai y farn fwyaf gywir ydyw, mai yr Iuddewou oedd ganddo yn flaenaf mewn golwg, ond nad oedd yn anghofio y Cenedloedd hefyd ag oedd yn eu plith wedi credu. " Y rhai gynt nid oeddych bobl, ond yn awr ydych bobl." " Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o'reinioes o weithredu ewyllys y Cenedl- oedd." At yr un rhai y danfonodd efe ei ail lythyr; " Yr ail epistol hwn, anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifenu atooh." 264—Rhagfyr, 1888