Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$í)[aiU (ftgluipig. LLYFRAU Y BETBL. SANT IAGO. Mab llawer o ddadleu wedi bod ao yn bod o barth i awdwr yr epistol hwn, ei amser, ei amcan, a'r deuddeg llwyth ar wasgar sydd yD cael eu hanercb. Nid oes lle ar ddalenau y Cîfaill i fyned i mewn i fanylion y ddadl hon. Yn wir, byddai y Ctfaill i gyd yn rhy gyfyng. Pa Iago yw yr awdwr ì Sonir am fwy nag un yn yr Efengylau, yr Actau, a'r Epistolau. Iago fab Zebedëus, a brawd Ioan. Iago fab Alphëus, sef Iago Fechan, un o'r deuddeg, a chanddo frawd o'r enw Judas, yr hwn hefyd oedd yn un o'r deuddeg. Iago brawd yr Arglwydd: " Onid Mair y gelwir ei fam ef, a Iago, a Joses, a Simon, a Judas, ei frodyr ef ?" " Eithr neb arall o'r apostolion nis gwelais, ond Iago brawd yr Arglwydd." Y dyb gyffredin yw, mai yr un person oedd Iago fab Alphëus, neu Iago Fechan, a'r hwn a elwir Iago brawd yr Arglwydd, ac mai wrth frawd yn y fan hon y meddylir cefnder neu berth- ynas agos i'r Arglwydd Iesu, ac nid brawd o'r un fam. Nid oedd ond dau Iago yn apostolion. Os nad yr un oedd Iago fab Alphëus a Iago brawd yr Arglwydd, nid oedd Iago brawd yr Arglwydd yn un o'r deuddeg. Eithr cyfeiria Sant Paul ato fel pe bai yn un o'r apostolion. Nid tebyg mai Iago fab Zebedëus a ysgrifenodd y llythyr hwn at y deuddeg llwyth, o blegid efe a laddwyd â'r cleddyf gan Herod o ddeutu deuddeg mlynedd ar ol esgyniad yr Iesu i'r nef. Nid tebyg, yn y cyfnod byr hwn, fod llawer o'r Iuddewon oeddynt ar wasgar wedi eu dwyn i gredu yng Nghrist. Os nad Iago fab Zebedëus yw awdwr yr epistol, rhaid mai Ugo fab Alphëus, yr hwn hefyd a elwir brawd yr 363— Tachwedd, 1888.