Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU Y BEIBL. HEBREAID. Mae yr epistol at yr Hebreaid yn wahanol i'r epistolau ereill. Nid oes enw un awdwr wrtho yn ei ddechreu na'i ddiwedd. Nid oes enw un Eglwys na pherson at ba un yr ysgrifenwyd ef. Mae hyn wedi achosi amrywiaeth barn o barth i'r awdwr ac o barth i'r Eglwys. Tyl)ia rhai mai St. Barnabas oedd yr awdwr, ereill mai St. Luc, ereill mai Apolos, ereill mai Clement, esgob Rhufain. Gwell derbyn barn fwyaf cyffredin dysgedigion hen a diweddar mai St. Paul yw yr awdwr. Tybia rhai mai at yr Hebreaid yn Rhufain yr anfonwyd ef. ereill mai at yr Hebreaid yn Galatia, ereill mai at yr Hebreaid yn Macedonia, ereill mai at yr Hebreaid yn yr Yspaen. Nid oes derfyn ar ddychymmyg dyn. Gwell eto derbyn y farn gyffredin, mai at yr Hebreaid yn Palestina yr anfonwyd y llythyr hwn, ac yn arbenig at yr Hebreaid oedd yn preswylio yn Jerusalem, y rhai oedd wedi cofleidio crefydd Crist. Bernir iddo gael ei ysgrifenu gan yr apostol yn Rhufain: y raae yn sicr iddo gael ei ysgrifenu yn yr Eidal, oblegid efe a ddywed, " Y raae y rhai o'r Ital yn eich anerch." A hyny ar ymyl ei ymadawiad oddi yno. Yr oedd Timothëus yn absennol ar y pryd, ac y mae ef yn ei ddys- gwyl yn ol yn fuan. Ar ol dyfodiad Timothëus, mae ef yn dymuno talu ymweliad a r Hebreaid yr oedd yn ysgrif- enu atynt. Os yw y dyb hon yn gywir, cafodd yr epistol ei ysgrifenu yn y flwyddyn 63. Mae prif amcan yr apostol wrth ysgrifenu yn dyfod yn eglur drwy yr holl epistol. Ceisia gryfhau yr Hebreaid yn y ffydd, a'u cadw rhag troi yn ol at yr hen grefydd Iuddewig. Efe a ddengys fod Crist, fel person, yn fwy 262— Eydref, 1888.