Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ <$BfaiIl éjluipig. LLYFRAÜ Y BETBL. PHILEMON. Yn Colossa yr oedd Philemon yn byw. Yr oedd yn wr o gyfoeth a dylanwad, ac yr oedd Eglwys yn ei dŷ. Nid gwr segur a diffrwyth oedd ef yn yr Eglwys, eithr dywedir am dano ei fod yn gydweithiwr â Paul a Timothëus. Ni fynegir beth oedd ei waith na'i swydd arbenig ef yng nglŷn â'r Eglwys yn Colossa. Mae'r apostol yn ei ganmol, ac yn diolch i Dduw am ei gariad, am ei ffydd, ac am ei haelioni. Yr oedd gan Philemon was. yn fwy cywir, caethwas, o'r enw Onesimus. 0 herwydd rhyw achos neu gilydd, fe ffodd Onesimus oddi wrth «i feistr. Mae Sant Paul megys yn awgrymu ei fod mewn rhyw ffordd wedi gwneuthur cam acholled i'w feistr. Aeth Onesimus i Rufain, lle yr oedd yr apostol yn garcharor ar y pryd. Efe a ddaeth o hyd i'r apostol, ac o dau ei ddysgeidiaeth efe a argyhoeddwyd, a edifarhaodd am ei bechod. ac a ddaeth yn Gristion gwir- ioneddol. Tebyg ei fod yn adwaen yr apostol, wedi ei weled a'i glywed naill ai yn Colossa neu yn Ephesus. Sant Paul a fu yn foddion tröedigaeth Philemon, ac yn awr efe a Iwyddodd i ddychwelyd ei was Ar ol ei dröedigaeth, naill ai trwy gynghor yr apostol neu o'i ewyllys ei hun, teimlodd Onesimus chwant myned yn ol at ei hen feistr, eithr ofiiai ei wg a'r gosp am redeg ymaith. Amcan yr apostol yn ei lythyr yw eiriol ar ran Onesimus. Mae Philemon dan rwymau iddo; mae ganddo ymddiried yn ei ysbryd maddeugar; mae Onesimus yn ddyn newydd, ac yn sicr o fod yn fuddiol iddo yn yr amser dyfodol. 08 oedd wedi gwneuthur uu cam â'i feistr neu yn ei ddyled o ddim, yr oedd yn barod i fyned ya feichai drosto, ac i dalu y ddyled. Yr oedd am iddo ei dderbyn yn ol, nid fel caethwas mwyach ond fel brawd. 261—Medi, 1888.