Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ì <|B.faiü Öjlujjjaij. LLYFRAU Y BEIBL. TITÜS. Pwy ydoedd Titus? Ni ddywedir ym mha le y dygwyd ef í fyoy; ni sonir am ei dad; ni roddir enw ei fam, fel mam Timothëus; ni hysbysir dim am dano yn Actau yr Apost.olion. Groegwr ydoedd o ran ei dad a'i fam. Ni chafodd enwaedu arno ac ni pherodd Saut Paul enwaedu arno ar ol ei dröedigaeth. ac ni chymhellodd yr Eglwys yn Jerusalem chwaith i enwaedu arno. Tebyg mai Sant Paul a fu yn foddion ei dröedigaeth, o blegid efe a ddywed am dano, ''At Titus, fy mab naturiol yn ol y ffydd gyffredinol." Ni wyddir pa mor foreu y dygwyd ef allan o dywyllwch eilunaddoliaeth i oleuni yr Efengyl. eithr bedair blynedd ar ddeg ar ol tröedieaeth Sant Paul, yr oedd Titus gyda'r apostol yn y gynnadledd yn Jerusalem. Yr oedd yn Gristion cyn hyny. Bu yn gydymaith ac yn gydweithydd â'r apostoî, a chafodd ei ddanfon ar lawer neges bwysig. Yr oedd gydag ef yn Ephesus ac yn Macedonia. Nid oes sicrwydd pa un a oedd gydag ef yn Rhufain yn amser ei garchariad cyntaf. Yr oedd gydag ef yn ei ail garchariad, a danfonwyd ef ganddo i Dalmatia. Rhwng ei garchariad cyntaf a'r ail, gadawodd Sant Paul Titus yn Creta. Ynys yw Creta, ac un o'r ynysoedd mwyaf y.m Môr y Canoldir. Y mae yn wyth ugain a deg o filltiroedd o hyd, ac yn hanner can milltir o led; yr oedd y tir yu ffrwythlawn, a'r boblogaeth yn lluosog Nid oedd y cymmeriad goreu i'r trigolion yn gyffredin. '• Un o honynt hwy eu hunain, un o'u prophwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwryddog, drwg fwystfilod, boliau gorddîog." Hyn oedd barn yr apostol hefyd am danynt. Efe a chwanega, " Y dyetiol- aeth hon sydd wir." Gelwir yr ynys yn awr Candia, ac 260—Áwst, 1888.