Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I ^ífaill (Bfllujgaig. LLYFRAU Y BEIBL. 1 A 2 TIMOTHEUS. Gblwir y ddau Epistol at Timothëus, a'r Epistol at Titus, yr Epistolau Bugeiliol, arn eu bod wedi eu danfon at fugeiliaid, ac yn cynnwys cyfarwyddiadau arbenig o barth i fugeiliaeth yr Eglwys. Am Timothëus, ni ellir gwybod yn bendant pa un ai yn Lystra neu yn Derbe y gauwyd ef, ac nid yw'r wybodaeth o uu pwys. Cenedlddyn, Groegwr, oedd ei dad. Iuddewes oedd ei fam, a Iuddewes oedd ei nain. Yr oedd Eunice yn fam ddoeth, a Lois yn nain dduwiol. Er na chafodd enwaedu arno yr wythfed dydd, efe a gafodd ci ddwyn i fyny mewn gwybodaeth o'r Ysgrythyr Lân. Tebyg mai ei nain a'i fam oedd ei brif athrawon. Pan ymwelodd Sant Paul â Lystra a Derbe y waith gyntaf, mae yn dra sicr fod Lois, ac Eunice. a'r bachgen Timothëus ym mhlith ei wrandawyr, ac o nifer y rhai a gredasant. Ar ei ail ymweliad â'r un gyramydogaeth, ym mhen saith mlynedd. yr oedd gair da gan y brodyr yn Lystra ac Iconium i'r dysgybl Timothëus. Deallodd yr Apostol ei gyaahwysder, dewisodd ef yn gydymaith, ac urddwyd ef i waith y weinidogaeth trwy arddodiad dwylaw Sant Paul, yng nghyd agarddodiad dwylaw yr henuriaeth. Yn y modd hyn yr urddir offeiriad i'w swydd yn bre- sennol, trwy arddodiad dwylaw yr esgob, yng nghyd ag arddodiad dwylaw dau neu dri o offeiriaid. Yr oedd yr Apostol yn hoff o'i fab uaturiol yn y Ffydd, a chanddo ymddiried ynddo. Bu yn cy^lafurio gydag ef yn ei holl deithiau. Mae ei enw wedi ei gyssylltu gydag enw Sant Pa«l mewn chwech o'r Epistolau—at y Corinthiaid, y Philipiaid, y Colossiaid, y Thessaloniaid, a Philemon. Gofyn yr Apostol ganddo fod yn ddyfal i ddyfod ato i 259—Gorphenaf, 1888.