Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$8JfaiU ôgluipig. LLYFRAU Y BEIBL. 1 A 2 THBSSALONIAID. Yn amser Sant Paul yr oedd tir Macedonia dan Rhufain, ac wedi ei ranu i bedair talaeth. Thessalonica oedd prif- ddinas un o'r taleithiau. Dinas â phorthladd ydoedd ar lan y môr, ac yr oedd rhaglaw Rhufeinig yn byw ynddi ac yn ei llywyddu. Yr oedd yn ddinas boblog, a marsiandi- aeth eang yn cael ei dwyn ym mlaen ynddi. Ym mhlith ei thrigolion yr oedd Groegiaid, a Rhufeiniaid, ac Iuddewon. Yr oedd ynddi amryw demlau, a gau dduwiau yn cael eu haddoli. Yr oedd gan yr Iuddewon un synagog, yr hyn nad oedd ganddynt yn Philippi. Ar ol iddynt gael eu gyru o Philippi aeth yr apostol, a Silas, a Timothëus trwy Amphipolis ac Apolonia i Thes- Balonica. Tebyg i Sant Luc gael ei adael yn Philippi. Nid oes hanes i Sant Paul wedi aros a phregethu Crist yn y dinasoedd a enwyd, ond myned ar ei gyfer i Thessalonica, a hyny, yn dra thebyg, am fod ynddi lawer o Iuddewon a chanddynt synagog. Efe a ymresymodd â'r Iuddewon yn y synagog dros dri Sabbath Fe gredodd rhai o honynt: fe gredodd lluaws mawr o'r Groegwyr crefyddol, sef y proselytiaid i'r grefydd Iuddewig, ac o'r gwragedd penaf nid ychydig. Nid ydym i feddwl mai tair wythnos neu fis yr arosodd efe yn y ddinas. Eithr wedi cau drws y synagog yn ei erbyu, efe a drodd at y Cenedloedd, a bu ef a Silas yn foddion i droi llawer at Dduw oddi wrth eilunod i was- anaethu y bywiol a'r gwir Dduw. Efe a blanodd Eglwys yn Thessalonica, a diammheu, yn ol ei arfer, efe a ordeiniodd heuuriaid ynddi i athrawiaethu a llywodraethu. Gan fod y Uwyddiant mor fawr, a rhif y dysgyblion yn cynnyddu, cododd yr Iuddewon nad oeddynt 258—Mehejin, 1888.