Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f <$ífaiU ŴfiliDgsig. LLYFRAU Y BEIBL. COLOSSIAID. Dywed yr hanesydd Xenophon am Colossa, ei bod yn ddinas fawr, boblog, brydfertb. Yr oedd yn sefyll ar lan yr afon Lycus, rhyw ddeng milltir yn uwch i fyny na Laodicea, yn nhalaeth Phrygia. Yr oedd y Phrygiaid yn dra ffrostgar o barth i'w hynafiaeth. Credent mai hwy oedd y bobl henaf ar wyneb y ddaiar. Mae rhywbeth mewn hynafiaeth. Yr ydym ni, y Cyniry, yn dueddol i gredu yr un peth am danom ein hunain, a bod clod a pharch yn ddyledus i ni am hyn. Yr oedd Colossa ar ymyl ffordd y brenin rhwng' Ephes- us a'r afon Euphrates, ac felly yr oedd llawer o deithwyr a marsiandwyr yn tramwy trwyddi. Ychydig flynyddau ar ol ysgrifenu yr epistol hwn, cafodd hi a'r dinasoedd cymmydogaethol eu hysgwyd a'u chwalu gan ddaiargryu. Adeiladwyd hi drachefn, a daeth yu dref flodeuog wedi hyn; ond am ganrifoedd bellach nid oes oud hen adfeiliou gwasgaredig a phentref bychan a thlawd yn dangos y fan lle y safai dinas brydferth Colassa. Tyrciaid sydd yu trig- iannu ynddo. Y mae yn hen ddadl ym mhlith esbonwyr pwy a blan- odd yr Eglwys yn Colossa. Yn yr adnod gyntaf o'r ail bennod, efe a ddywed, "Canys mi ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynnifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd." Oddi wrth hyn y cesglir nad oedd Sant Paul wedi bod yn bersonol yn Colossa nac yn Laodicea, eithr mai Epaphras a bregethodd yr Efengyl gyntaf yno. Mae ereill yn esbonio y geiriau yn wahanol, megys pe bai 257—Mai, 1888.