Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| ^gfaitl Ŵfliroptg, LLYFRAU Y BEIBL. Y PHILIPPIAID. Sapai Philippi mewn dyfFryn tra ffrwythlawn yn nhir Macedonia. Gwelodd Philip, tad Alexander Fawr, fod y lle yn fanteisiol i lywodraethu y dalaeth hòno o Macedonia. Adeiladodd yno ddinas ar sail hen dref Crenides (=lle y ffynnonau), ac a'i gwnaeth yn safle milwrol, ac a newid- iodd yr hen enw gan ei galw yn ol ei en w ei hun yu Philippi. Yn y gymmydogaeth yr oedd hen gloddfëydd arian ac aur. ac yr oedd y Phenisiaid wedi bod yno yn masnachu yn fore iawn. Bu y gymmydogaeth yn enwog o berwydd y brwydrau a ymladdwyd yno rhwng byddin Augustus Cesar ac Antbony. a byddin Brutus a Cassius. Yr oedd y ddau gadfridog cyntaf yn arwain byddin gwerinlywodraeth Rhufain. Cafodd byddin Brutus a Cassius ei gorchfygu, ac mewn anobaith, fe laddodd Cassius ei hun. Ymladdodd Brutus frwydr arall, ond cafodd ei wŷreugorchfygu,a'ifyddineigwasgaru. Efeaymguddiodd mewn ogof am un noswaith, a phan welodd fod pob ymdrech yn ofer, efe a archodd i'w was, Strato, ei ladd ef â'r cleddyf. Gwell ganddo hyny na myned i ddwylaw ei elynion. Gwrthododd Strato am amser, ond gan fod Brutus yn benderfynol, trodd Strato ei gefn at ei feistr, a daliodd ei gleddyf allan o'r tu cefn. Syrthiodd Brutus ar y cleddyf fel y bu farw. Yr oedd Philippi hefyd yn ddinas bwysig am ei bod ar y ffordd fawr rhwng Ewrop ac Asia, a llawer o dramwy trwyddi. Mae ychydig o'i holion yn aros hyd y dydd hwn, megys olion y farchuadfa lle y cur- wyd Paul a Silas, a hen balasdy godìdog, a gelwir y Ue yn awr Ffilibah. Yr oedd Philippi vn "ddiuas rydd." Yr 256— Ebrül, 1888.