Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| titafaiU ŴglmçBifl. LLYFRAU Y BEIBL. YR EPHESIAID. Yr ydym wedi rhoddi dysgrifiad byr o ddinas Ephesus yn ddiweddar (gweler rhifyn Ionawr). Hi oedd y ddinas fwyaf yn Asia Leiaf, hynod am ei masnach, ei chyfoeth, ei moethusrwydd, ei dewiniaeth, ei delwaddoliaeth, teml Diana, a'r chwareudy mwyaf yn y byd. Sant Paul a blanodd yr Eglwys yn Ephesus. Pao ar ei daith o Corinth i Jerusalem, o ddeutu y flwyddyn 53, efe a alwodd heibio i Ephesus, gan ddwyn Acwila a Phriscila gydag ef. Efe a'u gadawodd hwynt yno. Nid arosodd nemawr o amser ei hun o blegid fod brys arno fyned i Jerusalem erbyn yr wyl—yn fwyaf tebyg, Gwyl y Sulgwyn. Efe a addawodd ddyfod yn ol drachefn. Cadwodd ei addewid yn 54, ac wedi tramwy trwy barthau uchaf Asia efe a ddaeth i Ephesus, lle yr arosodd am dair blynedd. Nid oes hanes iddo aros cyhyd o amser mewn un ddinas arall. Cyn ei ymadawiad, yr oedd yr holl wlad a'r trefydd oddi amgylch wedi clywed Gair Duw. Efe a lafuriodd yn ffyddlawn i ddysgu a rhybuddio yr Ephesiaid nos a dydd ar gyhoedd ac o dŷ i dý, a hyny mewn dagrau. Efe a wnaeth wyrthiau mawrion yn enw yr Arglwydd Iesu, a bu llwyddiant mawr ar ei weinidogaeth. Ef allai y buasai yn aros yno yn hwy oni bai i Demetrius godi y*fath gynhwrf yn ei erbyn, ao yn erbyn y ffordd hòno. Yn Ephesus yr ysgrifenodd ei Épistol Cyntaf at y Corinthiaid. Pan yn myned ar ol hyn, yn 58, o Corinth i Jerusalem, nid aeth ef heibio i Ephesus, eithr efe a anfonodd am henuriaid yr Eglwys i gyfarfod ag ef yn Miletus. Ni(a gawn hanes y cyfarfod hwn yn Actau xx. 255—Mawrth, 1888.