Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

g <$gj[aill (Bjluipig. LLYFRAU Y BETBL. T GALAjÌIAID. Talaeth, ac nid dinas, ydoedd Galatia, yn Asia Leiaf. Gelwid ei thrigolion weithiau Celt'aid, weithau Galiaid, weithiau Galatiaid; oll yn golygu yr un peth. Llwyth o'r Celtiaid (Cymry) oeddynt wedi myned ar eu hynt o Ffrainc, ac ar ol trechu y brodorion, hwy a gyrnmerasant feddiant o'r tir. Yn eu mysg yr oedd yr hen frodorion y Phrygiaid, ac o radd i radd, daeth llawer o'r Groegiaid a'r Rhxifeiniaid ac Iuddewon i sefydlu yn eu plith. Eithr yr elfen Geltaidd oedd y gryfaf. Cadwasant eu hiaith am chwe chant o flynyddoedd ar ol sefydlu yn eu cartref newydd. Yn ol barn Dr. Lightfoot, daw y dymmer Gelt- aidd i'r golwg yn eu cymmeriad yn yr Epistol. Yr oeddynt yn dueddol i'r pechodau o genfigenau a meddwdod a chyfeddach, Yr oeddyut yn rhy barod i gnoi a thraflyncu eu gilydd. Yr oedd ganddynt galon a theimlad brwd. Pan oedd yr Apostol gyda hwyut y waith gyntaf, hwy a'i derbyniasant megys angel Duw, megys Crist Tesu. Yr oeddyut yn barod i dynu eu llygaid a'u rhoi iddo. Er hyny, yr oeddynt yu dra chyfuewidiol, ac yn agored i gymmeryd eu harwain gan gau athrawon. " Y mae yn rhyfedd genyf eich symrnud mor fuau oddi wrth yr hwn a'ch galwodd i ras Crist at efengyl arall.' " 0, y Galat- iaid yufyd, pwy a'ch llygad-dyuodd chwi ? " " Chwi a redasoch yn dda. pwy a'ch rhwystrodd chwi?" Nid oeddynt yn hoff o glywed y gwir. "A aethym i gau hyny yn elyu i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir?" Ar ol dyddiau Saut Paul, yu ol hanes yr Eglwys, yr oedd Eglwysi Galatia yn wel\ au brwd i feithriu sectariaeth. Mae son 251—Chwefror, 1888