Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

g (Çífaill ŵgîujpig. LLYFRAU Y BEIBL. 1 CORINTHIAID. Yr oedd Corinth yn ddinas fawr boblog, hynod am ei masnach, ei chyfoeth, ei moethau, ei glythineb, ei meddw- dod, ei hanlladrwydd. Nid pechaduriaid cyffredin oedd pechaduriaid Corinth. Ni a glywsom lawer gwaith am y " Corinthiaid duon," nid duon yn llíw eu crwyn, ond duon mewn pechod. Nid hen ddinas Groeg oedd Corinth St. Paul. Cafodd hòno ei dinystrio gan y Rhufeiniaid yn y flwyddyn 146 cyn Crist. Arosodd yn ei hadfeilion am gan mlynedd. Ailadeiladwyd hi gan Iŵl Cesar, ymher- awdwr Rhufain. Safai ar y gwddf o dir rhwng Macedonia, Achaia, a thir Groeg; a chan fod porthladd o bob tu iddi, yr oedd yn fanteisiol i farsiandiaeth, a llawer yn tramwy trwyddi o Asia i'r Eidal, a gwledydd ereill Ewrop. Ym mysg ei thrigolion yr oedd Rhufeinwyr, a Groegwyr, a gwahanol lwythau Asia. 0 herwydd ei bod yn Ue ffafriol i fasnachu, yr oedd yno lawer o Iuddewon yn cartrefu. Yr oedd addoliad godinebus y dduwies Wener mewn bri mawr yn Corinth, a cher llaw yr oedd y rhedegfëydd y cyfeiria yr apostol atynt. Yn y flwyddyn 51, aeth St. Paul o Athen i Corinth. Yr oedd y daith o ddeutu hanner can milltir o ffordd. Nid ydys yn sicr pa un ai dros y tir neu dros y dwfr yr aeth. Ond fe aeth gyda'r penderfyniad i wybod dim ym mhlith y Corinthiaid ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio. Ni bu ei weinidogaeth yn Athen yn llwydd- iannus. Ychydig a gredasant yno. Ni ddanfonodd lythyr at yr Atheniaid, ac nid yw yn son am Athen yn un o'i lythyrau. Bernir iddo wedi myned i Corinth newid ei ddull o bregethu mewn symylrwydd yn Ue â godidogrwydd ymadrodd; a newid sylwedd ei athrawiaeth, dim ond 252—Magfi/r, 1887.