Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| ẂSfaill ŵfilttjptí. LLYFRAU Y BETBL. ACTAU YR APOSTOLION. Yr un yw awdwr ysbrydolerìig y llyf'r a enwir Actau neu Weithredoedd yr Apostoliou Sanctaidd. a'r drydedd Efengyl. <: Y traetbawd cyntaf a wnaethym, 0 Theophilus, am yr holl bethau a drìeehreuodrì yr Iesu eu gwneuthur a'» dysgu." Y traethawd cyntaf yw r efengyl sydd yn dwyn enw Saut Luc. Yr ail rìraethawd yw Actau yr Apostolion. Mae y naill fel y llall wedi ei gyfìwyno i Theophilus, yr hwn, yn dra thebyg. oedd wr o urddas yn Antiochia. Cyflwyuir llyfrau yn awr i ryw berson ueìllduol pan yr amcenir hwynt i fod o furìd cyffrerìinol. Mae yr ail draethawd megys yn barhârì o'r cy'ntaf. Mae yr ail yn dechreu lle y diweddodd y cyntaf, gydag esgyniad Crist i'r nef, hanes yr hyn a rodrìir yn fwy manwl a helaeth. Yn y cyntaf efe a rydd hanes gweithredoedd a dysgeid- iaeth Crist yn bersouol; yn yr ail hanes ei weithredoedd a'i ddysgeidiaeth trwy ei Apostolion. Ni roddir hanes llafur yr oll o'r Apostolion, ond cymmerir dau o honynt, sef Sant Pedr a Sant Paul. Mae eu llafur hwynt yn esampl o lafur y lleill. Yr Actau yw y llyfr cyntaf â hanes Eglwys Crist. Yn hwn ceir ei hanés mewn rban am ddeng mlynedd ar hugain. Sant Pedr agorodd y drws i'r Iuddewon a'r Cenedloedd: i'r Iuddewon ar ddydd y Pentecost. i'r Cenedloedd wrth dderbyn i mewn Cornelius a'i dŷ yn Cesarea. Sant Pedr a Sant Ioan garcharwyd gyntaf; Sant Stephan ferthyrwyd gyntaf; Sant Iago, o'r Apostolion, roddwyd i farwolaeth gyntaf am dystiolaeth Iesu Grist. Cawn hanes tröedigaeth Saul o Tarsus, a'i dair taith geuadol. a'i fordaith i Rufain, hyd ddiwedd ei garchariad cyntaf yn y ddinas hòno. 0 Antiochia. yn Syria, yr 250—Hydref, 1887.