Skip to main content

Y CYFAILL EGLWTSIG. 227 LLYGAID BYTHOL EFFRO'R DUWDOD. Llygaid bythol effro'r Duwdod Sydd yn gwylio'r weddw dlawd, Fel na ddygwydd iddi niwed Ar ei hunig anial rawd; Ni cha hi ddyoddef eisieu, Duw ei hun sydd iddi'n blaid; Tln edrychiad fyth yn ddigon I gryfhau a lloni ei chalon, I gyflawnu'n llwyr ei rhaid. Ynddo Ef y mae ei digon, Arno Ef ei goglyd rydd; Er mewn byd o ing a thrallod, Hi ga nerth yn ol y dydd; A phan bwyso trwm unigedd Âr ei hysbryd clwyfus blin, Clyw ei phriod yn llefaru, Tra i'w gwyneb hi yn gwenu, Geiriau o felusaf rin. Heulwen glaer ei addewidion Lwyr wasgara'r cymyl du; Drwy ei llewyrch goleu eglur Gwel y Wynfa dawel fry, Lle na bydd ysgariad mwyach, Nac arteithiauunrhyw loes; Ond y mwyniant yn ymestyn Megys llanw mawr diderfyn Hyd y faith dragwyddol oes. Dolwen, Aberporth. Margaret Thomas. IDRISYN. Mae yr hen gyfaill, y Parch. John Jones (Idrisyn), wedi ei gasglu at ei dadau. Awst 17, efe a hunodd mewn oedran teg, yn 83 oed. Claddwyd ef Awst 22, ym mynwent ei blwyf, pryd y safai tyrfa fawr wrth ei fedd. Dechreuodd ei yrfa fel ar- grafFydd yn Nolgellau. Symmudodd i Lanidloes. Yn y cyfnod hwnw bu yn ddiwyd iawu gyda'r wasg, nid fel argraffydd yn unig, ond fel ysgrifenydd. Bu yn bregeth- wr lleol gyda'r Wesleyaid. Ymunodd â'r Eglwys, ac urddr wyd ef yn ddiacon ac yn offeiriad gau Dr. Thirlwall yn 1853 a 1854. Bu yu gurad Llandyssul, Ceredigion, am