Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I <|2jaiü (gglrcpig. LLYFRAU Y BETBL. SANT IOAN. Yr awdwr—Sant Ioan. Zebedëus oedd ei dad; Salome oedd ei farn; Tago oedd ei frawd; Bethesda oedd lle e enedigaeth; Pysgota oedd ei alwedigaeth. Yr oedd ei dad mewn amgylchiadau da, a cbanddo weision cyflog. Yr oedd ei fam o nifer y gwragedd ag oeddynt yn gweini i'r Iesu o*r pethau oedd ganddynt. Barna amryw esbon- wyr diweddar fod Salome yn chwaer i Mair Forwyn. Os felly, yr oedd yr Iesu a meibiou Zebedëus yn geraderwyr yn ol y cnawd. Yr oedd Toan yn un o ddysgyblion Sant Ioan Fedyddiwr, ac yn un o ganlynwyr cyntaf yr Iesu. Yr oedd yn uo o anwyliaid yr Iesu—y dysgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, a'r hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron Ef ar y Swpper. Yr oedd yn un o'r tri i weled cyfodi rnerch Jairus, i weled y gweddnewidiad, ac i fod yn dyst o'r ing a'r chwys gwaedlyd yu yr ardd. Galwodd yr Iesu y ddau frawd yn Boanerges—meibion y daran. Er i Sant Ioan ddyfod yn apostol oariad, yr oedd teicnlad tanllyd yn ei fynwes. Hwy a waharddasant i un fwrw allan gythreuliaid am nad oedd yn eu dilyn hwynt. Yr oeddynt am alw tân o'r nefoedd i ddifa pentref yn Samaria. Yn un o'i Epistolau. efe a ddywed am beidio derbyn athraw i dŷ, na dywedyd íl Duw yn rhwydd " wrtho 08 na iyddai dysgeidiaeth Crìst gauddo Yn ei hen ddydd- iau, pan yn yr olchfa yn Epbesns daeíh Cerenthus i mewn; y mae yntau yn brysio allau: ui fynai aros dan yr un gronglwyd a'r heretic hwnw. Os oedd ef yu anwyl gan yr Iesu, yr oedd yr Iesu yn anwyl gauddo yntau Efe a aeth gydag Ef i mewn i'r llys, ac a safodd yn ei ymyl wrth y groes. I'w ofal ef y cyfìwynodd yr Iesu ei fam pan yn marw. Tebyg ei fod yn y gladdedigaeth yng ngardd Joseph. 249—Medi, 1887.