Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f) C^sfaill ŵflluipig- LLYFRAU Y BETBL. SANT LUC. Nid ŷw Sant Luc yn enwi ei enw ei hunan unwaith yn yr Efeugyl nac yn Actau yr Apostolion. Ceir enw Luc dair gwaith yn yr Epistolau: Col. iv. 14; 2 Tim. iv. 11; Phil- etnon 24. '' Y mae Luc y physigwr anwyl yn eich anerch." " Luc yn unig sydd gyda mi." " Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghydweithwyr." I'r Colossiaid, y phys- igwr anwyl ydyw. Tebyg eu bod hwy yn ei adnabod fel y cyfryw. Wrth Timothëus nid oedd eisieu dywedyd rhagor na " Luc yn unig sydd gyda mi." Mae ef yn anfon anerch at Philemon, gyda chydweithwyr ereill Sant Paul. Tebyg mai efe oedd y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr Efengyl trwy yr holl Eglwysi. 2 Cor. viii. 18. Nid oedd ef wedi ysgrifeuu ei Efeugyl y pryd hwnw, ond yr oedd yn ei phregethu. Tybir i Sant Luc gael ei eni yn Antiochia, yn Syria, a'i ddwyn i fyny yn physigwr. Nid yw hyny yn un prawf ei fod yn hanu o deulu uchel, o blegid yr oedd caethweision yn aml yn physigwyr yr oesoedd hyny. Mae rhai wedi meddwl ei fod yn un o'r Deg a Thrigain, ereill ei fod yn un o'r Groegiaid a ewyllysient weled yr Iesu, ereill ei fod yn un o'r ddau ddysgybl oeddynt yn myued i Emmäus. Dichon mai'r farn gywiraf yw mai un o dròedigiou bore Sant Paul ydoedd—cenedlddyn, ac yn broselyt yn gyntaf i'r grefydd Iuddewig. Wrth ddarllen y rhan olaf o Lyfr yr Actau, mae Sant Luc weithiau yn arfer y gair " hwy," ac weithiau y gair "ni." Pan yn arfer y gair "ni" yr ydym i gasglu ei fod yn cyd-deithio â Sant Paul y pryd hyny. Yn Actau xvi. 8 a'r 10, efe a ddywed, "Ac 'wedi myned heibio i Mysia hwy a aethant i waered i Troas." "Yn ebrwydd ni a 2±8—Awst, 1887.