Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| fltifaHI ŵglropifl- LLYFRAU Y BEIBL. SANT MATTHEW. Ystyr y gair EfeDgyl ydyw newydd da. Gelwir y llyfrau a ysgrifenwyd gan Saut Matthew, Marc, Luc, Ioan, yn Efengylau, am eu bod yn cynowys y uewyddion da fod Iesu Grist, y Ceidwad, wedi ei eni, byw yn y byd, marw ar y groes, ei gladdu mewD bedd, adgyfodi y trydydd dydd, ac esgyn i'r nef, a'r cwbl er mwyn dyn ac er ei iachawdwriaeth. " NewyddioD da o laweuydd mawr." Yr oedd gan Sant Matthew ('Rhodd yr Arglwydd"), fel llawer ereill o'r TuddewoD, ddau enw, sef Matthew a Lefi. Mab ydoedd i Alphëus. Tybia rhai ei fod yn berthynas i Iago a Ioan. Yn Caperuaum yr oedd yn byw. Publicau, sef casglwr trethi, oedd wrth ei alwedigaetb. Wrth y dollfa, ar lan Môr Galilea, yr oedd yn eistedd pan y galwodd yr Iesu ef, ac y dywedodd wrtho, " CaolyD fi." Yr oedd yo wr o gyfoeth, a chanddo fodd i wneuthur gwledd fawr, a gwahodd tyrfa fawr iddi o bublicauod a phechaduriaid i gyfarfod â'r Iesu a'i ddysgyblion. Eto efe a adawodd y cwbl ac a aeth ar ol yr Ieau. Ni roddir dim o hanes Matthew yn llyfr Actau yr Apostolion. Y traddodiad am dano yw iddo aros yn Judea am bymtheg mlynedd ar ol esgyniad Crist, a phregethu yr Efengyl i'w geoedl ei hun. Wedi ymadael â Judea, efe a aeth i Ethiopia, sef Caldea; yn ol rbai i Parthia, yn ol ereill i Persia. Dichon iddo ymweled ag amryw wledydd. Pan oedd yn pregethu gyda nerth a llwyddiant mawr, efe a osodwyd i farwolaeth yn Nadabar, dinas o Ethiopia, ond ni ddywedir pa fodd na pha bryd. Pan ar ymadael â Phalestina, ar gais yr Iuddewon crediniol, efe a ysgrifenodd yr Efengyl er eu cadw a'u cadarnhau yn y ffydd. Aramaeg oedd iaith yr Iuddewon 246—Mehefin, 1887.