Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i (fygfain ŴflI«Ta»ifl- LLYFRAU Y BETBL. YR APOCRYPHA. RaWNG y llyfr olaf yn yr Hen Destament a'r lìyfr cyntaf yn y Testament Newydd—rhwng Malachi y Prophwyd a Matthew yr Efengylwr—mae cyfnod o bedwar can mlynedd wedi rhedeg heibio. Am yr ysbaid hir hwn, ni cheir yn y Beibl ddim o hanes y genedl na'r Eglwys Iuddewig. Yr hanes.sydd o fewn cyrhaedd, rhaid edrych am dano yn llyfr cyntaf y Maccabeaid, yn Josephus, ac yn hanesion Groeg a Rhufain. Yn y Beiblau Eglwysig rhoddir yr Apocrypha i mewn, fel math o ddolen-gydio rhwng y Ddau Destament, ac y mae rhanau o hono wedi eu trefnu i'w darlleu yn Llithiau yn y Gwasanaeth cyhoeddus. Ystyr y gair Apocrypha ydyw cuddiedig neu ddirgelaidd. Gelwir y llyfrau wrth y teitl hwn naill am na wyddir pa bryd na chan bwy yr ysgrifenwyd hwynt, neu am eu bod gynt yn cael eu darllen yn breifat ac nid yn gyhoedd. Yng Nghymmanfa Trent, rhoddodd Eglwys Rhufain ei barn fod y llyfrau yn ysbrydoledig, ac yn meddu ar yr un awdurdod a Uyfrau yr Hen Destament a'r Newydd. Nid yw Eglwys Loegr yn eu hystyried yn ysbrydoledig a chanonaidd. Hyn a ddywed am danynt yn y Chweched Erthygl, " A'r llyfrau ereill (fel y dywed Hierom) y mae'r Eglwys yn eu darllen er esampl buchedd ac addysg doesauj eto nid y w yn eu gosod i sicrhau un athrawiaeth." Nid oeddynt i'w cael yn yr Hebraeg, nac wedi eu rhestru ytn mhlith Ysgrythyrau canonaidd yr Eglwys Iuddewig. Ni chyfeirir atynt gan Grist na'i Apostolion yn y Testa- ment Newydd. Mae St. Athanasius a St Hierom, yn y bedwaredd ganrif. yn bendant yn eu gwrthod bwynt, er eu bod yn llefaru yn barchus am danynt. Ceir addysgiadau 245—Mai, 1887.