Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

% dtífatll Ŵjjlujgiug. LLYFRAÜ Y BEIBL. MALACHI. Nhhemiah oedd hanesydd diweddaf yr hen Destament; Malachi oedd y prophwyd diweddaf, a'i lyfr ef sydd yn cloi i fyny ysgrythrau yr Hen Destament. Tybia rhai mai ei enw swyddol, ac nid ei enw personol, yw Malachi —" Fy nghenad,"—ac mai yr un yw ef ag Ezra yr offeiriad, yr ysgrifenydd. Gan nad yw yn son dim am j caethiwed yn Babilon, nac am ailadeiladu y deml, tebyg ei fod yn byw flynyddau lawer ar ol dyfodiad y genedl yn ol o'r wlad estrouol, ar ol gorphen y deml, ac ail sefydlu y gwasanaeth dwyfol. Gall ei fod yn byw yr un amser a Nehemîah. yn ei flynyddau olaf wedi iddo ddyfod yr aìl waith o Persia i fod yn llywydd ar Judea. Mae ef yn cyfeirio at yr un pechodau ag oedd wedi bod yn fliuder i Nehemîab. Tebyg ei fod yn prophwydo o ddeutu y flwyddyn 420 cyn Crist. Ni ddywedir dim yn y Beibl am le ei enedigaeth, nac am le uac am amser ei farwolaeth. Mae hen draddodiad mai un o lwyth Zabulon ydoedd, ac iddo gael ei gladdu ym meddrod ei dadau, o fewn rhandir y llwyth hwnw. Bu yr Iuddewon yn yr ysgol yn Babilon am ddeng mlynedd ar hugaio, a dysgasant un wers bwysig yno na anghofiasant byth mo houi, hyny yw, i ymwrthod â gau dduwiau ac eilunod, ond ni ddysgasant i addoli y gwír a'r bywiol Dduw mewn ysbryd a gwirionedd. Yr oeddynt wedi dirywio yn amser Malachi. Yr oedd y deml a'i gwaith wedi myned yn fliuder iddynt; offryment aberthau halog- edig, a dygent at allor Duw y dall, y claf, y cloff, a'r clwyfus; gwyrent farn. ac esgeulusent ddysgu y bobl yng nghyfraith yr Arglwydd. Ac am y bobl, yr oeddynt 244—Ebrül, 1887.