Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ <$jf»Ul <&J01 ujb«ifl. LLYFRAU Y BEIBL. HAGGÀI. H aggai (" gwyl Jehofah," neu " fy ngwyl i") oedd un o'r tri phrophwyd a brophwydasant ar ol y caethiwed yn Babilon. Ni ddywedir dim am lenac am amser ei enedig- aeth, nac i ba deulu nac i ba lwyth y perthynai. Mae hen draddoliad iddo gael ei eni yn Babilon, ac iddo ddyfod i Jerusalem gyda Zorobabel a Josuah pan yn wr ieuanc. Mae Ewald o'r farn iddo gael ei eni yn Judea, a'i fod wedi gweled y deml gyntaf yn ei gogoniaut. Os felly, yr oedd mewn gwth o oedran pan yn llefaru y llyfr sydd yn dwyn ei enw. Yr oedd yno rai a welsent y deml gyntaf, ac a wylasent, ond ni ddywed Haggai « fod ef yu un o houynt. Efe a benoda amser ei weinidogaeth a'r achlysur o honi yn«dra eglur. Yn y flwyddyn 536 cyn Crist, cyhoeddodd Cyrusryddidi'r Iuddewon ddychwelyd i'w gwlad eu hunain. Y flwyddyn ddilynol hwy a ddechreuasant adeiladu tý yr Arglwydd. Yn y gwaith hwn, cawsant eu rhwystro gan dywyeogion y Samariaid am dair blynedd ar ddeg. Yn amser Artaxerxes, brenin Persia, cafodd y gwaith ei attal am flwyddyn gyfan. Wedi i Darius esgyn i'r orsedd, cafodd yr Iuddewon ffafr a llonyddwch, ond yn lle adeiladu a gorphen tý Dduw, hwy a aethant i adeiladu ac addurno eu tai eu hunain. Yn yr ail flwyddyn i'r brenin Darius, sef 520, yn y chweched mis, cododd Haggai, yn llawn sel danllyd, i annog y bobl i orpheu tŷ eu Duw. Ceryddodd hwynt yn llym am eu difaterwch yn trigo eu hunain mewn tai byrddiedig, tra yn gadael tŷ Dduw yn anghyfannedd. Lìefarodd wrthynt yn groew fod yr Arglwydd wedi digio wrthynt, o herwydd eu hesgeulusdra, ac wedi gwahardd i'r nefoedd roddi ei gwlith, a'r ddaiar i 242—Chwefror, 1887.