Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| ^sfailî Ŵgl©û»ij. LLYFRAU Y BEIBL. HABACUC. Awdwr y llyfr oedrì Hahacuc, yr hyn o'i gyfieithu yw " Cofleidio," o herwydd ei fod yu anwyl ac yn cael ei gofleidio, neu o herwydd ei fod ef yn anwylo ei genedl. Ni nodir y llwyth yr oedd yn perthyu iddo, na lle ai enedigaeth, na'i hanes personol, na'r lle y claddwyd ef. Mae traddodiadau yn ei gylch, ond nis gellir dibynu yn bendant arnynt. Dywed rhai mai raab y Sunamees ydoedd, yr hwn a gyfododd Elisëus o feirw Dywed ereill mai efe oedd y gwyliedydd ar y ddysgwylfa yn Esaiah, yn mynegu cwymp Babilon Dywed y Deg a Thrigain mai mab Josua ydoedd, o lwyth Lefí. 0 berwydd iddo gyfansorìdi salm i'w chanu yng ngwasanaeth y deml, tybir mai Lefiad ydoedd. Yn chwedl Bel a'r Ddraig ni a gawn fod Habacuc wedi parotoi ciniaw i'r medelwyr, ac i angel ei gymmeryd ef erbyn gwallt ei ben o Judea i Babilon, i roddi y ciniaw i Daniel. yr hwu oedd ar y pryd yn ffau y llewod Ni ellir rhoddi coel ar hyn. Mae amrywiaeth barn hefyrì yng nghylch yr amser yr oedd yn byw ac yn prophwyrìo. Tybia rhai ei fod yu byw yn amser Manasseh. ereill yn amser Jonah. ereill yn amser Jehoiacim. Tebyg mai y cyfuorì olaf yw y mwyaf cywir. Yr oedd yn prophwydo ychyrìig amser cyu dyfodiad y Caldeaid ar hyd a lled y tir. ac i rìdmystrio Jerusalem. " Gweithredaf weithred yn eich dyddiau; ni choeliwch er ei mynegu i chwi.' Daeth Nebuchodonosor yn erbyu Jerusalem yn y flwyddyn 605 cyn Crist, a thebyg ei fod ef wedi llefaru y brophwydoliaeth ryw bum mlynedd cyn hyny. Mae ef ar y cyutaf yn galaru o herwydd anwiredd a thrais y genedl. Mae hyn yn ddysgrifiad o gyflwr moesol a chrefyddol y bobl dan Jehoiacim, yr hwn UQ—Rhagfyi\ 1886.